Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y meysydd canlynol fel rhan o’i ymchwiliad:

 

  • Sut i godi ymwybyddiaeth o’r niwed sy’n gysylltiedig â’r defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd ymhlith y cyhoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus perthnasol.
  • Gallu gwasanaethau lleol ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r niwed sy’n gysylltiedig â’r defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd, ac i ymdrin ag effaith y niwed hwn.
  • Effeithiolrwydd y dulliau o gasglu data ac adrodd ar y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd yng Nghymru, a’u heffeithiau.
  • Y dulliau deddfwriaethol posibl o fynd i’r afael â’r mater o sylweddau seicoweithredol newydd, ar lefel Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
  • Pa mor effeithiol y caiff y dull partneriaeth i fynd i’r afael â’r mater o sylweddau seicoweithredol newydd yng Nghymru ei gydlynu, o fewn Cymru a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
  • Tystiolaeth ryngwladol am ddulliau gweithredu a ddefnyddiwyd o ran sylweddau seicoweithredol newydd mewn gwledydd eraill.

 

I’w nodi: Mae sylweddau seicoweithredol newydd (y cyfeirir atynt yn aml fel “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”) yn gyffuriau sydd wedi’u cyfuno i ddynwared effeithiau cyffuriau anghyfreithlon ac sy’n cael eu ceisio ar gyfer defnydd meddwol. Oherwydd eu bod newydd eu creu, nid ydynt yn cael eu rheoli yn awtomatig o dan ddeddfwriaeth cyffuriau (yn y DU, Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971). Gall y term hefyd gynnwys sylweddau o darddiad llysieuol (“cyffuriau penfeddwol llysieuol”).

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor arolwg i gasglu tystiolaeth ynghylch ymwybyddiaeth o sylweddau seicoweithredol newydd a’r defnydd ohonynt. Mae adroddiad (PDF, 394 KB) a fideo sy’n rhoi crynodeb o’r arolwg hefyd wedi’i gynhyrchu.

 

Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 309KB).

 

Gwybodaeth ychwanegol

 

Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol [Saesneg yn unig] (PDF,157KB).

 

Gweithgareddau ymgysylltu 

 

Nodyn o'r ymweliadau a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014 (PDF, 133KB).

 

Nodyn o'r digwyddiadau grŵp ffocws a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014, (PDF, 270KB).

 

Storify

 

Storify gan y Pwyllgor o'i ymchwiliad.

 

Adroddiad y Pwyllgor

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad  (PDF, 865KB) ym mis Mawrth 2015. Cyhoeddwyd diweddariad i’r adroddiad cryno (PDF, 265KB) ym mis Mawrth 2016 i adlewyrchu’r datblygiadau polisi diweddar ar lefelau Cymru, y DU ac Ewrop.

 

Ysgrifennodd Gweinidog Atal Trosedd Llywodraeth y DU at y Pwyllgor ar 27 Mawrth 2015 i amlinellu barn y Swyddfa Gartref ar adroddiad y Pwyllgor [Saesneg yn unig] (PDF, 69KB). Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 124KB) yn Mai 2015.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

 

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar 13 Mai 2015.

 

Cymorth a chefnogaeth

Os yw sylweddau seicoweithredol newydd wedi effeithio arnoch chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, neu os hoffech ragor o wybodaeth amdanynt, gallwch gysylltu â DAN 24/7 i gael cyngor. Llinell gymorth gyfrinachol yw DAN 24/7 ac mae ar gael am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael rhagor o wybodaeth neu gymorth mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol. Cewch ragor o wybodaeth yma: http://www.dan247.org.uk/Drug_NewPsychoactiveSubstances.asp

Rhadffon: 0808 808 2234

Neu tecstiwch DAN i: 81066

www.dan247.org.uk

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/07/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau