Agenda a Phenderfyniadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.20 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Dyraniadau Canlyniadol Datganiad yr Hydref Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.58 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Addysg Uwch (Cymru) NDM5659 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Addysg Uwch (Cymru) yng
Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol: a) adrannau 2 - 59 b) atodlen c) adran 1 d) teitl hir Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.27 NDM5659 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r
atodlenni i'r Bil Addysg Uwch (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol: a) adrannau 2 - 59 b) atodlen c) adran 1 d) teitl hir Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – gwelliant i Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1954 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 2) NDM5655 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y gwelliannau i'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n
ymwneud â thenantiaethau busnesau yn y cartref, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8
Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Mae copi o'r Bil ar wefan
Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html
(Saesneg yn unig) Dogfennau
Ategol Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 2) Adroddiad
y Pwyllgor Menter a Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.28 NDM5655 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y gwelliannau i'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud
â thenantiaethau busnesau yn y cartref, i'r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8
Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – taliadau ymadael y sector cyhoeddus (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 3) NDM5656 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter
a Chyflogaeth sy'n ymwneud â thaliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau
y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Mae copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html
(Saesneg yn unig) Dogfennau
Ategol Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) Adroddiad
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.32 NDM5656 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n
ymwneud â thaliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Tachwedd
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio - diwygiad mewn perthynas â Deddf Cychod Pysgota Prydeinig 1983 Deddf Pysgodfeydd 1868 a Deddf Pysgodfeydd 1891 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 5) NDM5657 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6,
gytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio, sy'n berthnasol i
bysgodfeydd a physgota i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 5) yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Mae copi o'r Bil Dadreoleiddio ar gael yma: http://services.parliament.uk/bills/2013-14/deregulation.html
(Saesneg yn unig) Dogfennau
Ategol Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 5) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.35 NDM5657 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig y dylai Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, gytuno y dylai darpariaethau
yn y Bil Dadreoleiddio, sy'n berthnasol i bysgodfeydd a physgota i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
gael eu hystyried gan Senedd y DU. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 5) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal dros dro Rheol Sefydlog 11.16 i ganiatáu i'r eitem nesaf o fusnes gael ei thrafod (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.36 NNDM5662 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal dros dro y rhan honno
o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan
Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn
yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5661 gael ei hystyried yn y
Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Ionawr 2015. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014 NNDM5661 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo'r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2)
2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Rhagfyr 2014. Dogfennau Ategol Gorchymyn
Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.37 NNDM5661 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo'r Gorchymyn
Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014 a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 23 Rhagfyr 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2015-16 NDM5658 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol
(Rhif 1) 2015-2018 (Setliad Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 6 Ionawr 2015. Dogfen
Ategol Setliadau
Refeniw a Chyfalaf Terfynol Llywodraeth Leol 2015-16 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.40 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5658 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988,
yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2015-2018 (Setliad
Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2015. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2013-14 NDM5660 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Blynyddol (2013-14) Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a
anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 6 Ionawr 2015. Dogfen Ategol Adroddiad
Blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2013-14 Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg yn ystod ei ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r
Glasoed (CAMHS) ynghylch y pwysau cynyddol ar y gwasanaeth a'i allu i ateb y
galw. Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cymryd camau brys i wella mynediad i wasanaethau
CAMHS; a b) cynnal asesiad o gyllid ar gyfer CAMHS yng Nghymru i
sicrhau bod y gwasanaeth yn cael adnoddau digonol i ddiwallu anghenion pobl
ifanc ar draws y wlad. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
cleifion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn cael gwybodaeth drylwyr am y
dewis o driniaethau a'u hargaeledd ac i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad
at wasanaethau mewn modd amserol. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n
eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol ac i roi
terfyn ar stigma. Gwelliant
5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at effaith diwygiadau lles ar bobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl. Gwelliant
6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr i
fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i
hyrwyddo cyflogaeth. Gwelliant
7 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi'r ymgyrch 'Amser i newid' i fynd i'r afael â
rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.25 NDM5660 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Blynyddol
(2013-14) Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 6
Ionawr 2015. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r dystiolaeth a gafodd
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod ei ymchwiliad i Wasanaethau
Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ynghylch y pwysau cynyddol ar y
gwasanaeth a'i allu i ateb y galw. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cymryd camau brys i wella
mynediad i wasanaethau CAMHS; a b) cynnal asesiad o gyllid ar
gyfer CAMHS yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael adnoddau digonol i
ddiwallu anghenion pobl ifanc ar draws y wlad. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn
cael gwybodaeth drylwyr am y dewis o driniaethau a'u hargaeledd ac i sicrhau eu
bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau mewn modd amserol. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl
a chorfforol ac i roi terfyn ar stigma. Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at effaith
diwygiadau lles ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio
gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau
iechyd meddwl i hyrwyddo cyflogaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi'r ymgyrch 'Amser i
newid' i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant 7. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5660 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol
(2013-14) Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 6
Ionawr 2015. 2. Yn nodi'r dystiolaeth a
gafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod ei ymchwiliad i
Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ynghylch y pwysau cynyddol
ar y gwasanaeth a'i allu i ateb y galw. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cymryd camau brys i wella
mynediad i wasanaethau CAMHS; a b) cynnal asesiad o gyllid ar gyfer
CAMHS yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael adnoddau digonol i
ddiwallu anghenion pobl ifanc ar draws y wlad. 4. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl
yn cael gwybodaeth drylwyr am y dewis o driniaethau a'u hargaeledd ac i sicrhau
eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau mewn modd amserol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd
meddwl a chorfforol ac i roi terfyn ar stigma. 6. Yn gresynu at effaith
diwygiadau lles ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl i hyrwyddo cyflogaeth. 8. Yn cefnogi'r ymgyrch 'Amser
i newid' i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.25 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |