R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella gwasanaethau GIG yng Nghymru yn 2015? OAQ(4)2026(FM)
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Nhrac Môn? OAQ(4)2029(FM)W
3. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol? OAQ(4)2032(FM)
4. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drin cyflyrau'r galon yng Nghymru? OAQ(4)2036(FM)
5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y bydd y Prif Weinidog yn cynnal ei gyfarfod nesaf gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig? OAQ(4)2038(FM)W
6. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer taliadau gwledig yn dilyn penderfyniad i ddiddymu'r taliad ar wahân ar gyfer rhostir? OAQ(4)2034(FM)W
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am astudiaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ynghylch arferion ffordd o fyw dynion o Gaerffili? OAQ(4)2025(FM)
8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)2030(FM)
9. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gais am lais i Gymru ar ymchwiliad y panel annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol? OAQ(4)2040(FM)
10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd lleol ar gyfer pobl Brycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2028(FM)
11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag asiantaethau Llywodraeth y DU ynghylch protocolau ar gyfer rheoli Ebola? OAQ(4)2033(FM)
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru i gryfhau'r economi wledig yn 2015? OAQ(4)2039(FM)
13. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella tai cymdeithasol yng Nghymru? OAQ(4)2035(FM)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau cyflog yn y sector cyhoeddus? OAQ(4)2024(FM)
15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)2027(FM)