Cyfarfodydd
NDM7193 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol
NDM7193 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau
a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad i Ofal Hosbis a Gofal
Lliniarol.
2. Yn cydnabod bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru
angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant.
3. Yn cydnabod er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o
ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru, bod anghenion
sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na fodlonwyd yn barhaus, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) amlinellu sut y bydd Cymru'n dod yn 'wlad dosturiol';
b) sicrhau bod cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal
lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i'r dull hwn o weithredu;
c) darparu meini prawf adrodd cyson, a mynd i'r afael â
bylchau yn y data a gaiff eu casglu ar anghenion gofal lliniarol i oedolion a
phediatrig;
d) diweddaru'r mecanwaith cyllido ar gyfer hosbisau
elusennol fel ei fod yn seiliedig ar y data sydd ei angen ar y boblogaeth leol
a nifer yr achosion;
e) cynyddu lefel y cyllid statudol a ddarperir i hosbisau
oedolion a phlant yng Nghymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod
cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng
Nghymru a bod angen gwneud rhagor o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei
ddiwallu
Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru:
a) yn parhau i weithio
gyda phartneriaid statudol a phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r
uchelgais o sicrhau mai Cymru yw 'gwlad dosturiol' gyntaf y byd;
b) yn sicrhau bod
cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei
wneud yn ganolog i’r dull gweithredu hwn;
c) yn darparu meini
prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu
am anghenion gofal lliniarol oedolion a gofal lliniarol pediatrig;
d) yn parhau i
fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau elusennol gan weithio gyda’r bwrdd
diwedd oes a’r byrddau iechyd;
e) yn parhau i fonitro
ac adolygu’r cyllid a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4:
sicrhau bod gofalwyr
yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod ac ar ôl iddynt ofalu am rywun
sy'n cael gofal lliniarol.
Gwelliant 3 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4:
sicrhau bod amrywiaeth
o wasanaethau ar gael ym mhob rhan o Gymru fel bod modd parchu dewisiadau'r
unigolyn o ran y math o ofal lliniarol a ddarperir, ynghyd â lleoliad y gofal
hwnnw.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7193 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Grŵp
Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad
i Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol.
2. Yn cydnabod bod gan tua
23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys
dros 1,000 o blant.
3. Yn cydnabod er bod rhywfaint
o gynnydd wedi'i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol
yng Nghymru, bod anghenion sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na
fodlonwyd yn barhaus, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) amlinellu sut y bydd Cymru'n
dod yn 'wlad dosturiol';
b) sicrhau bod cryfhau'r
ddarpariaeth o wasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn
ganolog i'r dull hwn o weithredu;
c) darparu meini prawf adrodd
cyson, a mynd i'r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu ar anghenion
gofal lliniarol i oedolion a phediatrig;
d) diweddaru'r mecanwaith
cyllido ar gyfer hosbisau elusennol fel ei fod yn seiliedig ar y data sydd ei
angen ar y boblogaeth leol a nifer yr achosion;
e) cynyddu lefel y cyllid
statudol a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu
mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor
o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:
a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a
phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw
'gwlad dosturiol' gyntaf y byd;
b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau
gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu
hwn;
c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r
afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol
oedolion a gofal lliniarol pediatrig;
d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau
elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd;
e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i
hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
19 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7193 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Grŵp
Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad
i Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol.
2. Yn cydnabod bod gan tua
23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys
dros 1,000 o blant.
3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu
mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor
o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu
4. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:
a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a
phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw
'gwlad dosturiol' gyntaf y byd;
b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau
gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu
hwn;
c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r
afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol
oedolion a gofal lliniarol pediatrig;
d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau
elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd;
e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i
hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
9 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.