Pobl y Senedd

Darren Millar AS

Darren Millar AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gorllewin Clwyd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur yr effaith y mae'r pandemig yn ei chael ar ddarpariaeth gofal?

Wedi'i gyflwyno ar 03/12/2020

Pa fesurau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i liniaru'r risg o bobl hŷn yn cael eu camdrin?

Wedi'i gyflwyno ar 03/12/2020

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gefnogi lles y bobl hŷn hynny sy'n dal i gysgodi?

Wedi'i gyflwyno ar 03/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.

I'w drafod ar 02/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do.

I'w drafod ar 02/12/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt yn annigonol, yn enwedig pan fo cwmnïau wedi gw...

I'w drafod ar 02/12/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Darren Millar AS

Bywgraffiad

Y tro cyntaf i Darren gael ei ethol i Senedd Cymru oedd yn 2007, ac erbyn hyn mae ar ei bedwerydd tymor.

Cyn cael ei ethol i'r Senedd, bu Darren yn gweithio fel rheolwr i elusen ryngwladol yn cefnogi Cristnogion sy’n cael eu herlid ar draws y byd. At hynny, bu’n gyfrifydd yn gweithio yn y diwydiannau adeiladu, cartrefi gofal a thelathrebu.

Ar ôl cael ei fagu yn Nhywyn, mae Darren bellach yn byw ym Mae Cinmel gyda'i wraig a'u dau blentyn, sy’n blant hŷn erbyn hyn.

Yn dilyn etholiad y Senedd 2021 penodwyd Darren i swydd y Prif Chwip a llefarydd yr Wrthblaid ar y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru, ar fainc flaen Ceidwadwyr Cymru.

Yn ystod ei gyfnod fel Aelod o Senedd Cymru mae Darren wedi bod yn gyfrifol am amryw o bortffolios yr wrthblaid, gan gynnwys Iechyd, Addysg, Llywodraeth Leol a Materion Rhyngwladol. At hynny, bu’n Gadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol y Senedd.

Ar hyn o bryd mae Darren yn cadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Ffydd a'r Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, ag yntau’n un o sylfaenwyr y naill grŵp a’r llall.

Yn 2000/2001 Darren oedd y maer ieuengaf yng Nghymru – mae Darren ar ddeall nad oes maer ifancach wedi bod, hyd yn hyn – pan oedd yn faer ar drefgordd Tywyn a Bae Cinmel. At hynny bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae Darren yn Gristion ymroddedig, yn ddarllenydd brwd ac yn seryddwr amatur.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021
  4. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Darren Millar AS