Cyfarfodydd
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/04/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad
·
Crynodeb
o'r ymatebion i'r ymgynghoriad - Papur 5
·
Amlinelliad
o'r adroddiad drafft i'w adolygu - Papur 6
·
Cyhoeddi
adolygiad - Papur 7
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
1.1
Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion a gafodd i'w ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft ar
gyfer y Chweched Senedd. Nododd y Bwrdd ei ddiolch i’r rhai a gyflwynodd ymatebion.
Trafododd y Bwrdd yr holl ymatebion a’r opsiynau’n fanwl.
1.2
Nododd
y Bwrdd ei fwriad, pe bai’r amgylchiadau’n caniatáu, i gyhoeddi’r Penderfyniad
ar gyfer y Chweched Senedd erbyn diwedd mis Mai 2020.
Cam
gweithredu:
-
Yr
ysgrifenyddiaeth i baratoi’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a’r
adroddiad cysylltiedig er mwyn i’r Bwrdd gytuno arno.
Cyfarfod: 16/01/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Ymgynghoriad ar y Penderfyniad Drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad
·
Trosolwg
o'r Penderfyniad drafft - Papur 6
·
Atodiad
A - Penderfyniad Llawn
·
Atodiad
B - Dogfen ymgynghori ddrafft
·
Cyhoeddi
ymgynghoriad - Papur 7
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
3.1
Ystyriodd y Bwrdd opsiynau ar gyfer
sut y mae'n dymuno cyhoeddi ei ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft.
3.2 Ystyriodd y Bwrdd y negeseuon allweddol ac amserlen yr ymgynghoriad ar y
Penderfyniad, a chytunodd arnynt.
Cam
gweithredu:
- Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r Penderfyniad drafft a chyhoeddi'r
dogfennau atodol ar gyfer ymgynghori yn eu cylch yn unol â'r strategaeth
gyfathrebu y cytunwyd arni gan y Bwrdd.
Cyfarfod: 16/01/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Materion heb eu datrys ar y penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad
·
Cyngor ychwanegol ar Wariant ar Lety Preswyl,
Costau Swyddfa a Theithio - Papur 3
·
Cyngor ychwanegol ar Gymorth Staffio i Aelodau a
Phleidiau Gwleidyddol - Papur 4
·
Cyngor ychwanegol ar daliadau Aelodau, Cymorth
Ychwanegol ac Aelodau'n gadael eu swydd - Papur 5
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
- Cyfyngedig 18
- Cyfyngedig 19
Cofnodion:
2.1
Croesawodd y Cadeirydd Sulafa
Thomas i’r cyfarfod.
2.2 Trafododd y Bwrdd gynigion ar gyfer RAE, costau Swyddfa, teithio, cymorth
staffio ac Aelodau'n gadael y swydd.
2.3 Trafododd y Bwrdd drosglwyddo costau deunydd ysgrifennu a ariennir gan y
Comisiwn i'r Penderfyniad, a chytunodd ei bod yn rhy gynnar i wneud hynny nawr.
Cytunwyd i gymryd sylw o’r ffaith y byddai'r trosglwyddiad yn digwydd o
ddechrau'r Chweched Cynulliad.
2.4 Ystyriodd y Bwrdd y Penderfyniad drafft fesul llinell, a chytunwyd i
ystyried y diwygiadau ac i gymeradwyo'r drafft terfynol ar gyfer ymgynghori yn
eich gylch drwy e-bost.
2.5 Ystyriodd y Bwrdd y ddogfen ymgynghori ddrafft, a chytunwyd i ystyried y
diwygiadau ac i gymeradwyo'r fersiwn derfynol drwy e-bost.
2.6 Cytunodd y Bwrdd i gomisiynu Diverse Cymru i gynnal Asesiad Effaith
Cydraddoldeb ar y Penderfyniad i lywio'r fersiwn derfynol.
Cyfarfod: 21/11/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i’w thrafod: Y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ymatebion i’r ymgynghoriad: rhan tri
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
- Cyfyngedig 23
- Cyfyngedig 24
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
4.1 Trafododd y
Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad ar ran tri o'r adolygiad o'r
Penderfyniad.
4.2 Cytunodd y
Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynnig 1 i gadw’r trefniadau cyfredol ar gyfer tâl
Aelodau, ac i gadw’r cyswllt rhwng cyflogau Aelodau a mynegai ASHE.
4.3 Cytunodd y
Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynnig 2 i wneud darpariaeth ar gyfer
cydnabyddiaeth ariannol y Darpar Gwnsler Cyffredinol.
4.4 Wrth drafod
y materion uchod yng nghyd-destun sicrhau cysondeb o fewn y Penderfyniad,
cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar gynigion i dalu Darpar Brif Weinidog.
Felly, cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar y ddarpariaeth dan sylw fel
rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.
4.5 Nododd y
Bwrdd y gefnogaeth a fynegwyd yn yr holl ymatebion a gafwyd i Gynnig 3, sef
datblygu pennod newydd yn y Penderfyniad ar ddarparu cymorth i Aelodau sydd ag
anableddau. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar destun penodol fel rhan
o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.
4.6 Cytunodd y
Bwrdd mewn egwyddor i ddatblygu Cynnig 4, gan ystyried darparu cymorth i
Aelodau â chyfrifoldebau gofal plant a gofalu. Cytunodd y byddai’n ymgynghori
ar gynigion fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.
4.7 Wrth gytuno
ar yr uchod, cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n gweithredu cynnig 5, sef
cyhoeddi costau ar sail ddienw a chyfanredol.
4.8 Cytunodd y
Bwrdd hefyd y byddai’n datblygu darpariaeth mewn perthynas â Chynnig 6, sef
darparu cymorth i Aelodau sy'n cymryd cyfnod o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb
mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir. Felly, cytunodd y Bwrdd y byddai’n
ymgynghori ar y darpariaethau manwl fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad
llawn ym mis Ionawr.
4.9 Wrth drafod
ymateb ynghylch darparu cymorth i Aelodau dros 65 oed, penderfynodd y Bwrdd y
byddai'r newidiadau a'r ychwanegiadau a wneir i'r Penderfyniad o ganlyniad i'r
rhan hon o'r adolygiad yn ymdrin ag anghenion Aelodau sy’n 65 oed neu’n
hŷn.
Cam gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi’r
llythyr yn datgan penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.
Cyfarfod: 21/11/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i’w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad - Crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad: rhan dau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
·
3.1 Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad.
·
3.2 Mewn
perthynas â Chynnig 1, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu'r cynnig ar gyfer
y Chweched Cynulliad a gweddill y Pumed Cynulliad, a hynny er mwyn sicrhau nad
oes unrhyw gyfyngiadau ar allu Aelodau i recriwtio staff ar gontractau tymor
penodol sy'n hwy na chwe mis ac sy’n para hyd at 18 mis, yn amodol ar gynnal
proses recriwtio deg ac agored.
·
3.3 Ymhellach
i’r cam o weithredu Cynnig 1 ar gyfer y Chweched Cynulliad, cytunodd y Bwrdd
hefyd y dylid alinio contractau tymor penodol ar gyfer absenoldeb mamolaeth â
darpariaethau statudol ar gyfer absenoldeb mamolaeth, a hynny am gyfnod o hyd
at 12 mis.
·
3.4 O
ran Cynigion 2 a 6, sy'n ymwneud â chaniatáu i Aelod neu Arweinydd Plaid bennu
cyflog cychwynnol a chodiadau cyflog cynyddrannol aelod staff yn dilyn ei gyfnod
prawf, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu’r trefniant hwn ar gyfer y
Chweched Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n argymell bod y Bwrdd
nesaf yn adolygu'r broses hon 12 mis ar ôl ei gweithredu.
·
3.5 Cytunodd
y Bwrdd â'r ymatebion a ddaeth i law a oedd yn galw am broses ymgynghori mewn
perthynas â’r canllawiau sy'n ymwneud â'r meini prawf ar gyfer cyflog
cychwynnol, a chytunodd y byddai’r ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Grwpiau
Cynrychiolwyr wrth ddatblygu'r canllawiau.
·
3.6 Cytunodd
y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3, 7 ac 8, a chytunodd hefyd, yn unol
â’r hyn sydd wedi’i nodi yn y Cynigion, y byddai amgylchiadau lle byddai
aelodau o staff cymorth yn cael eu diswyddo yn rhai annisgwyl, a dylai’r
sefyllfa honno felly fod yn destun codiad o 100 y cant.
·
3.7 Wrth
drafod yr ymatebion, cytunodd y Bwrdd hefyd y dylai staff sy’n cael eu diswyddo
o ganlyniad i afiechyd fod yn destun codiad o 100 y cant, oherwydd y gallai
amgylchiadau o’r fath hefyd fod yn annisgwyl.
·
3.8 Fodd
bynnag, ni chytunodd y Bwrdd i gymhwyso codiad o 100 y cant i aelodau staff a
gafodd eu diswyddo yn sgil penderfyniad blaenorol y Bwrdd ym mis Ebrill 2019
ynghylch cyflogi aelodau o'r teulu, gad fod yr amgylchiadau hynny yn rhai
disgwyliedig.
·
3.9 Cytunodd
y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 4 a 9, sy’n ymwneud â thalu cyflog sy'n
cyfateb i isafswm band tri mewn perthynas â lleoliadau addysg uwch sy’n para’n
hwy na phedair wythnos. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n datblygu canllawiau
ar gyfer interniaethau. Cred y Bwrdd y byddai'r dull hwn yn cynorthwyo’r broses
o gyflawni amcanion cydraddoldeb, tryloywder a thegwch.
·
3.10 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3 a 10, sy’n
ymwneud â chyflwyno gweithdrefn ar gyfer lleoliadau gwirfoddol mewn swyddfeydd
Aelodau a Grŵp.
·
3.11 Mewn perthynas â Rhan dau o'r ymgynghoriad, yn canolbwyntio ar
gynigion i ddiwygio Rheolau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad, cytunodd y Bwrdd
y byddai’n rhoi'r newidiadau hynny ar waith. Bydd y Tîm Pensiynau yn cyfarwyddo
Eversheds, ar ran y Bwrdd, i wneud y newidiadau angenrheidiol i Reolau'r
Cynllun Pensiwn.
· 3.12 Bu'r Bwrdd hefyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3
Cyfarfod: 21/11/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Eitem i’w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: trafodaeth gychwynnol ynghylch yr ymgynghoriad llawn ar y Penderfyniad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
- Cyfyngedig 33
Cofnodion:
5.1 Cynhaliodd y Bwrdd ei drafodaeth
gychwynnol ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad yn ei gyfanrwydd,
ynghyd â thrafodaeth ar y materion dros ben i’w hystyried fel rhan o'r broses
ymgynghori derfynol ym mis Ionawr.
5.2 Cytunodd
y Bwrdd y byddai’n trafod y Penderfyniad fesul llinell, fel y'i diwygiwyd, cyn
cyhoeddi’r ymgynghoriad ddiwedd mis Ionawr.
Cyfarfod: 19/09/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 36
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Bwrdd y diweddariadau ar Lwfans
Cymorth y Pleidiau Gwleidyddol a’r broses o Gyflogi Staff y Grwpiau
Gwleidyddol.
5.2 Cytunodd y Bwrdd i beidio ag ystyried
unrhyw newidiadau o ran pwy yw’r cyflogwr ar gyfer staff y grwpiau ar yr adeg
hon. Cytunwyd y byddai angen gwneud unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â
hunaniaeth cyflogwr staff grŵp yng nghyd-destun unrhyw newid i faint y
Cynulliad.
5.3 Nododd y Bwrdd nad oes disgwyl i ddeddfwriaeth
ar faint y Cynulliad gael ei chyflwyno tan dymor nesaf y Cynulliad, a chytunodd
y dylid tynnu sylw at y mater hwn yn ei adroddiad etifeddiaeth ar gyfer y Bwrdd
newydd yn 2020.
5.3
Cytunodd y Bwrdd i ystyried Lwfans Cymorth y Pleidiau Gwleidyddol fel rhan o'i
adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer gweddill y Pumed Cynulliad.
5.4 Cytunodd y Bwrdd y byddai angen ystyried
unrhyw newidiadau i fformiwla neu strwythur y lwfans yng nghyd-destun diwygio'r
Cynulliad. Felly, cytunwyd y dylid tynnu sylw at hyn yn adroddiad etifeddiaeth
y Bwrdd ar gyfer y Bwrdd newydd yn 2020.
Camau
gweithredu:
- Trafod Lwfans Cymorth y Pleidiau
Gwleidyddol fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad mewn cyfarfod yn
y dyfodol.
- Cynnwys hyn yn adroddiad
etifeddiaeth y Bwrdd i'w gyhoeddi yn haf 2020.
Cyfarfod: 19/09/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Cynigion ar gyfer ymgynghori, rhan tri
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
4.1 Trafododd y Bwrdd y materion sy'n dod o dan
ran tri o'r adolygiad ynghylch cyflogau Aelodau,
deiliaid swyddi, gadael swyddi a chymorth ychwanegol.
4.2 Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion
i ddiwygio'r penodau hyn o'r Penderfyniad.
4.3 Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fydd
11 Tachwedd 2019.
Cam
gweithredu:
- Cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- Paratoi crynodeb o'r ymatebion i'w
hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol
Cyfarfod: 04/07/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Yr ymatebion i'r ymgynghoriadau ar Ran Un
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 43
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
2.1
Ystyriodd y Bwrdd yr ymatebion i'w ymgynghoriad.
2.2 O ran
Cynnig 1, cytunodd y Bwrdd i ystyried y math o eiriau i gael gwared ar daliad
llog ar forgeisiau yn 2026, ond i anrhydeddu trefniadau cytundebol presennol.
Cytunodd y Bwrdd hefyd i ystyried y mater hwn ymhellach yn yr ymgynghoriad
terfynol ar y Penderfyniad yn y flwyddyn newydd.
2.2
Cytunodd y Bwrdd i weithredu Cynnig 2 fel yr amlinellwyd.
2.3 O ran
Cynnig 3, cytunodd y Bwrdd i ddisodli'r gair 'Esteem' gyda’r geiriau 'Enw Da'
ac i ddileu'r gair 'gorfodol'. Cytunodd y Bwrdd hefyd i ddileu'r cyfeiriad at
'drafnidiaeth gyhoeddus' a’i newid i hygyrch a chyraeddadwy i'r cyhoedd.
2.4 Wrth
ystyried yr ymatebion i Gynnig 4 a Chynnig 5, cytunodd y Bwrdd i beidio â
darparu cyllid ar wahân ar gyfer prisio prydlesau ar hyn o bryd ond i gadw'r
newidiadau hyn mewn cof wrth ystyried cyfanswm gwerth y lwfans ar ddiwedd yr
adolygiad.
2.5 O
ystyried yr ymatebion i Gynnig 6 a Chynnig 7 cytunodd y Bwrdd i newid y geiriad
i roi eglurhad nad yw Aelodau wedi'u cyfyngu i brynu drwy'r Comisiwn, ond os
bydd Aelodau'n dewis prynu gan gyflenwyr eraill yna ni fydd cefnogaeth ar gael
gan y Comisiwn.
2.2
Cytunodd y Bwrdd i weithredu Cynnig 8 a Chynnig 9 fel yr amlinellwyd.
2.7
Cytunodd y Bwrdd i anfon llythyr yn amlinellu ei benderfyniadau cyn gynted â
phosibl.
Cam
gweithredu:
Yr
ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi ymateb y Bwrdd i'r ymgynghoriad cyn gynted â
phosibl.
Cyfarfod: 04/07/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ail drafodaeth o Ran Tri
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
4.1 Trafododd y Bwrdd y materion sy'n dod o dan
ran tri o'r adolygiad ynghylch cyflogau Aelodau, deiliaid swyddi, gadael swyddi
a chymorth ychwanegol.
4.2
Cytunodd y Bwrdd i ddychwelyd at y mater yn ei gyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 04/07/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Cynnig ymgynghori ar Ran Dau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
- Cyfyngedig 51
- Cyfyngedig 52
Cofnodion:
3.1
Ystyriodd y
Bwrdd y darpariaethau yn y penodau ar lwfansau cymorth staffio o’r Penderfyniad
sy'n dod o dan ran dau o'r adolygiad.
3.2
Cytunodd y
Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio'r penodau hyn o'r Penderfyniad.
3.3
Y dyddiad
cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 11 Hydref 2019.
3.4
Ystyriodd y
Bwrdd faterion yn ymwneud â’r Lwfans Cymorth Pleidiau Gwleidyddol a chytunodd i
ddychwelyd at y mater hwn yn ei gyfarfod nesaf.
Cam
gweithredu:
Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn:
-
cyhoeddi a
hyrwyddo'r ymgynghoriad;
-
paratoi
crynodeb o'r ymatebion i'w hystyried gan y Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol
Cyfarfod: 23/05/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ail drafodaeth o faterion sy'n codi o dan ran dau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 55
Cofnodion:
4.1 Cafodd
y Bwrdd ei ail drafodaeth o'r materion sy'n dod o dan ran dau o'r adolygiad
ynghylch y cymorth a roddir ar gyfer yr Aelodau ac i Bleidiau Gwleidyddol, sef
penodau 7 ac 8 o'r Penderfyniad.
4.2 Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion hyn yn
ei gyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 23/05/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Trafodaeth gyntaf o ran tri
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 58
Cofnodion:
5.1
The Board undertook it first consideration of the issues which fall under part
three of the review focusing on salaries of Members and office holders leaving
office and additional support.
5.2
The Board agreed to return to these issues at its next meeting.
Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
6 Y Bwrdd Taliadau: Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad
SoC(5)-07-19 Papur 6 – Dogfen Ymgynghori
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
6.1 Nododd yr
Aelodau’r ymgynghoriad ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
6.2
Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn cyflwyno ymateb ar nifer o bwyntiau a godwyd
gan yr Aelodau.
Cyfarfod: 21/03/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ystyriaeth gyntaf o ran dau (parhad)
Cofnodion:
4.1.
As
item 3.
Cyfarfod: 21/03/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)
Eitem i'w thrafod: Gwerthuso rôl yr Uwch Gynghorydd: Adroddiad gan Capital People (parhad)
Cofnodion:
6.1.
As
item 5.
Cyfarfod: 21/03/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Eitemau i'w trafod: Gwerthuso rôl yr Uwch Gynghorydd: Adroddiad gan Capital People
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 69
- Cyfyngedig 70
Cofnodion:
1.1.
Croesawodd y Bwrdd Paul
Clayton a Joe Glover, a oedd yn cynrychioli Capital People, i'r cyfarfod.
1.2.
Gwahoddodd y Cadeirydd Paul
a Joe i roi trosolwg o'r adroddiad i'r Bwrdd ac i ymateb i'r pwyntiau eglurhad
a godwyd.
1.3.
Cytunodd y Bwrdd i drafod
y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cam gweithredu:
Yr
ysgrifenyddiaeth i gysylltu â Capital People ar ran y Bwrdd i gytuno ar y camau
nesaf.
Cyfarfod: 21/03/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ystyriaeth gyntaf o ran dau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 73
Cofnodion:
1.1.
Cynhaliodd y Bwrdd ei
drafodaeth gyntaf o'r materion sy'n dod dan ran dau o'r adolygiad ynghylch y cymorth
a roddir ar gyfer yr Aelodau ac i Bleidiau Gwleidyddol, sef penodau 7 ac 8 o'r
Penderfyniad yn y drefn honno.
1.2.
Cytunodd y Bwrdd i drafod
y materion hyn yn ei gyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 21/03/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Trydedd ystyriaeth o ran un
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 76
- Cyfyngedig 77
Cofnodion:
1.1.
Trafododd y Bwrdd y
darpariaethau ym mhenodau'r Penderfyniad sy'n ymwneud â Gwariant ar Lety
Preswyl, Siwrneiau'r Aelodau a Chostau Swyddfa sy'n dod dan ran un o'r
adolygiad.
1.2.
Cytunodd y Bwrdd i
ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio'r penodau hyn yn y Penderfyniad.
1.3.
7 Mehefin 2019 fyddai'r
dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad.
Camau gweithredu:
Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol:
-
cyhoeddi a hyrwyddo'r
ymgynghoriad;
-
llunio crynodeb o'r
ymatebion i'r Bwrdd eu trafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 17/01/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ail drafodaeth ar ran un (parhad)
Cofnodion:
4.1
Fel eitem
3.
Cyfarfod: 17/01/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ailystyriaeth o ran un.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 82
- Cyfyngedig 83
- Cyfyngedig 84
- Cyfyngedig 85
Cofnodion:
3.1
Trafododd y Bwrdd y
darpariaethau yn y penodau hynny yn y Penderfyniad sy’n ymdrin â gwariant ar
lety preswyl, costau teithio a chostau swyddfa'r Aelodau. Mae’r rhain yn dod o
dan ran un o’i adolygiad.
3.2
Bydd y
Bwrdd yn ailystyried y materion a godwyd yn ei
gyfarfod nesaf