Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Cyfarwyddiadau diwygiedig ar gyfer darparu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/01/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 17/09/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Adolygiad o'r trefniadau clustnodi cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.11a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 17/09/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Sesiwn graffu gyffredinol a chraffu ariannol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.6a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 


Cyfarfod: 17/09/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Cynlluniau tymor canolig ar gyfer byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.10a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Sesiwn graffu gyffredinol a chraffu ariannol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog yn ateb cwestiynau gan yr Aelodau.

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

-     Dadansoddiad o’r dyraniadau ychwanegol o £6.8 miliwn ar gyfer y perfformiad gofal wedi’i gynllunio a £6.8 miliwn ar gyfer pwysau’r gaeaf i’r byrddau iechyd, a ddarparwyd yn ystod 2014-15, (y nodwyd y manylion yn eu cylch ym mharagraff 8 o’ch papur ysgrifenedig), fesul bwrdd iechyd unigol;

-     manylion am gynnwys cyffredinol y cyllidebau gofal iechyd sylfaenol a gofal iechyd eilaidd, gan gynnwys gwybodaeth am:

-     ddyraniadau a wnaed i wasanaethau gofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ôl eu trefn, yn 2014-15;

-     y gyfran o’r gorwariant yn 2014-15 a oedd i’w briodoli i ofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ôl eu trefn; ac

-     y codiadau / gostyngiadau ar gyfer cyllidebau gofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ôl eu trefn, ar gyfer pob un o’r pum mlynedd diwethaf, yn arbennig fel cyfran o gyllideb gyffredinol yr adran.

-     cadarnhad o’r dyddiad y rhoddwyd gwybod i fyrddau iechyd yng Nghymru na fyddai angen ad-dalu’r gorwariant a’r cyllid broceriaeth a ddarparwyd ar ddiwedd 2013-14, cyn cychwyn Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014; ac

-     y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru o ran y llifau ariannol ar draws ffiniau byrddau iechyd.


Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

General and financial scrutiny of the Minister for Health and Social Services and the Deputy Minister for Health: discussion of approach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd yn gyffredinol ac yn ariannol.


Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Sesiwn graffu gyffredinol ac ariannol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd: ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 The Committee considered the evidence received.


Cyfarfod: 13/05/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.6a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 23/04/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd: paratoi ar gyfer sesiwn graffu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidogion i ofyn am wybodaeth cyn y sesiwn ar 17 Mehefin 2015, a bu’n trafod materion y bydd yr Aelodau o bosibl am eu codi yn ystod y sesiwn honno.

 


Cyfarfod: 19/03/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chanllawiau ar lefelau diogel o ran defnyddio meddygon locwm.

 


Cyfarfod: 19/03/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: gwaith craffu cyffredinol a chyllidol.

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd

 

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i gwestiynau gan Aelodau.

3.2 Cytunodd y Gweinidog:

·         i ddarparu gwybodaeth ystadegol gefndir yn ymwneud â nifer yr unigolion yng Nghymru sydd â salwch cronig a'r nifer sy'n cael triniaethau; 

·         i roi gwybod i'r Pwyllgor pan fydd yr adroddiad cenedlaethol 'Ymddiried Mewn Gofal', ynghylch hapwiriadau o wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru, yn cael ei gyhoeddi;

·         i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu manylion am ddyraniadau'r rhaglen gyfalaf sydd wedi'u nodi yng nghynllun tair blynedd drafft Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gyfeirio'n benodol at unrhyw gynlluniau i ddatblygu adran achosion brys Ysbyty Gwynedd; ac

·         i adolygu canllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â newid gwasanaethau byrddau iechyd lleol er mwyn sicrhau eu bod yn darparu'n ddigonol ar gyfer ymgysylltu â staff yr effeithir arnynt, o bosibl.

 


Cyfarfod: 12/02/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Craffu ariannol: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.


Cyfarfod: 21/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Sesiwn graffu gyffredinol a chyllidol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd: paratoi ar gyfer y sesiwn graffu.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidogion i ofyn am wybodaeth cyn y sesiwn ar 19 Mawrth 2015, a bu’n trafod materion y bydd yr Aelodau am eu codi, o bosibl, yn ystod y sesiwn.

 


Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd: gohebiaeth gan y Prif Weinidog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.

 

 


Cyfarfod: 20/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cynllun recriwtio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

 


Cyfarfod: 18/09/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 Sesiwn graffu gyffredinol a chyllidol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd

 

Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Weinidog Iechyd.

9.2 Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau gan Aelodau.

9.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynllun recriwtio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer y 100 o barafeddygon ychwanegol a ariannwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwneud â’r adolygiad o Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7c.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar y Gweinidog, Gorffennaf 2013

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3c.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 18/07/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - gwaith craffu cyffredinol

HSC(4)-25-13 papur 1

 

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwenda Thomas AC, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr, GIG Cymru

Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 The Minister for Health and Social Services and the Deputy Minister for Social Services and their officials responded to questions of the Committee.

 

3.2 The Minister for Health and Social Services and his officials agreed to provide the following information:

  • A note on how many staff positions have been terminated by Local Health Boards (LHBs) in recent years and in what disciplines.
  • Figures from the Deanery on the recruitment of General Practitioners for each Local Health Board.

 


Cyfarfod: 18/07/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - gwaith craffu ariannol

HSC(4)-25-13 papur 2

 

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwenda Thomas AC, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr, GIG Cymru

Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 The Minister for Health and Social Services and the Deputy Minister for Social Services and their officials responded to questions of the Committee.

 

4.2 The Minister for Health and Social Services, Deputy Minister for Social Services and officials agreed to provide the following information:

  • A note on the review of the Townsend Formula.
  • A note clarifying the evidence from the WAO as to whether any medical treatment was cancelled by LHBs for financial reasons in the last financial year.
  • A note on how protected funding for social services has been used by individual local authorities for all years available.
  • Figures on how many Local Authorities now charge the full capped limit of £50 a week for domiciliary care and how many Local Authorities have increased their charges to £50 a week since the cap was introduced.

 

4.3 The Deputy Minister for Social Services agreed to keep the Committee informed about the progress of discussions on social services funding and the future monitoring of local government expenditure in this area.


Cyfarfod: 06/06/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Paratoi ar gyfer y sesiynau craffu ariannol cyffredinol a chanol blwyddyn ar 18 Gorffennaf

HSC(4)-18-13 papur 2

Dogfennau ategol:

  • HSC(4)-18-13(p2) (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion yr hoffai gael gwybodaeth amdanynt yn y sesiynau craffu ar 18 Gorffennaf.


Cyfarfod: 24/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

10 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Camau a gododd o'r cyfarfod ar 5 Rhagfyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10b.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 24/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

10 Llythyr gan y Prif Ystadegydd - Cynnwys ac amseru ystadegau swyddogol ynghylch iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-33-12 papur 1

 

          Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant

Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth ysgrifenedig am brosiectau cyfalaf sydd heb eu cyflawni, y manylion fesul bwrdd iechyd o sut byddai’r £82 miliwn ychwanegol ar gyfer y GIG yn cael ei ddyrannu, sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at yr adolygiad o’r cydbwysedd o ran cymhwysedd rhwng y DU a’r UE, a’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer staff yn y lluoedd arfog a’r gwasanaethau brys.

 


Cyfarfod: 04/07/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-20-12 papur 1

 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant

Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y Gweinidog.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn ar gais y Pwyllgor:

·         Enghreifftiau o ysbytai cyffredinol dosbarth yn y DU lle ni ddarperir gwasanaethau aciwt;

·         Copi o’r asesiad annibynnol o’r ymarfer ar ymgysylltiad y cyhoedd a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda fel rhan o’i gynlluniau ailgyflunio.


Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn graffu ar 25 Ionawr

HSC(4)-04-12 papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.


Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-03-12 papur 1

         

          Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau                  Cymdeithasol

          Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru   

 

Egwyl 10.30 – 10.40

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth, yn ôl cais y Pwyllgor, am: nifer y swyddi gwag sydd ar gael ar gyfer meddygon yng Nghymru, a gradd y swyddi hyn; y meini prawf a gaiff eu defnyddio i fesur llwyddiant yr ymgyrch sydd ar y gweill i recriwtio meddygon i Gymru; a nifer yr ymwelwyr iechyd sydd eu hangen i ddyblu nifer y bobl sy’n elwa o’r rhaglen Dechrau'n Deg.

 

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y trafodaethau sy’n cael eu cynnal â Llywodraeth y DU am reoleiddio mewn perthynas â darparwyr preifat llawdriniaeth gosmetig, ac i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cadair olwyn a chymorth ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru.


Cyfarfod: 29/09/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar waith y Gweinidog: Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Tony Jewell - Prif Swyddog Meddygol
Chris Jones – Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru a’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y Gweinidog.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

 

-        y sylwadau anghyson a wnaed gan Goleg Brehinol y Bydwragedd ynghylch niferoedd y bydwragedd yng Nghymru;

 

-        lle mae problemau recriwtio mewn gwasanaethau newyddenedigol;

 

-        nifer y gwelyau ar gyfer mamau â babannod sy’n dioddef o iselder ôl-enedigol;

 

-        enwaedu benywod;

 

-        y gwerthusiad o effeithiolrwydd y rhaglen MEND (Mind, Exercise, Nutrition...Do It!) yng Nghymru.

 

3.3 Cytunodd y Cadeirydd i anfon y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y cyfarfod at y Gweinidog. 

 

 


Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (10:30 - 11:00)

·         Lesley Griffiths, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         David Sissling, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Rob Pickford, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd A Gwasanaethau Cymdeithasol, a Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r cyfarfod.

 

4.2 Amlinellodd y Gweinidogion eu blaenoriaethau ar gyfer yr agenda iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a gwnaethant ateb cwestiynau gan yr Aelodau am y blaenoriaethau hyn.

 

4.3 Derbyniodd y Pwyllgor gynnig y Dirprwy Weinidog i gyflwyno papur briffio ar y materion ynghylch gofal preswyl gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4.4 Diolchodd y Cadeirydd i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog am ddod i’r cyfarfod.