Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
HSC ()
Dyddiad: 13 Gorffennaf 2011
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Teitl: Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Diweddariad
Diben
1. Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth gefndir er mwyn llywio trafodaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf 2011.
2. Fel y gofynnwyd, mae'r papur hwn yn darparu manylion o flaenoriaethau’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar gyfer y Cynulliad hwn, yn cynnwys deddfwriaeth ac ymrwymiadau maniffesto eraill.
3. Mae hefyd yn darparu diweddariad ar nifer o faterion a fu’n destun adroddiadau’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol blaenorol.
CYFLWYNIAD
4. Amlinellwyd amryw o’r blaenoriaethau ar gyfer agenda Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant y Cynulliad hwn yn Sefyll Cornel Cymru.
5. Mewn perthynas â'r GIG, mae gan ein hymrwymiadau maniffesto ffocws clir ar atal iechyd gwael, gwella canlyniadau iechyd, a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Rydym yn bwriadu cymryd camau i wella mynediad at feddygon teulu, rhoi dechrau iach mewn bywyd i blant, cyflwyno archwiliadau iechyd i bobl dros 50 oed, a pharhau gyda'r gwelliannau a welwyd eisoes mewn gwasanaethau canser, cardiaidd a strôc yng Nghymru. Bydd gwaith i wella amseroedd ymateb ambiwlans a lleihau mynychu adrannau brys yn ddiangen hefyd yn flaenoriaeth.
6. Yn fwy cyffredinol, rydym am sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt mor agos at eu cartrefi ag sy'n bosibl mewn system iechyd integredig, diogel a chynaliadwy. Nid ydym am system iechyd sy’n cael ei dargyfeirio gan gystadleuaeth a phrosesau comisiynu cymhleth. Rhoddir manylion pellach ar ein blaenoriaethau allweddol sy'n gysylltiedig ag iechyd, yn cynnwys deddfwriaeth yn Atodiad 1.
7. Yn unol â’n maniffesto, mae ein blaenoriaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol yn canolbwyntio ar gyflenwi gweledigaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Wrth galon y rhain y mae gwerthoedd tegwch a lles i bawb a chred mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydym am wneud yn siŵr bod y math iawn o ofal yno pan fo’i angen ac nad mater o’r math o gymorth y gall pobl ei fforddio ydyw. Nodir rhagor o fanylion ynglŷn â’n blaenoriaethau ar gyfer gweithredu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig yn Atodiad 2.
8. Mae Atodiad 3 yn darparu diweddariad ar y materion allweddol a godwyd yn Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor blaenorol.
9. Trafodir ein blaenoriaethau mewn perthynas â’r Agenda Plant yn y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.
ATODIAD 1: BLAENORIAETHAU CYSYLLTIEDIG AG IECHYD
Mae'r maniffesto yn gosod allan y rhaglen ar gyfer Llywodraeth dros y pum mlynedd nesaf ac mae'n cynnwys amrediad o ymrwymiadau mewn perthynas â'r agenda iechyd sy'n adeiladu, gwella a sefydlu gwaith sydd eisoes ar droed. Bydd blaenoriaethau cynnar ar gyfer gweithredu yn cynnwys y canlynol:
(i) Gwella mynediad at feddygfeydd teulu gyda'r nos ac ar ddydd Sadwrn
Cyflwyno gwasanaethau meddyg teulu mwy hygyrch er mwyn caniatáu i bobl gael mynediad at wasanaethau meddyg teulu lleol ar yr adeg fwyaf hwylus iddynt hwy. Eisoes mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb gyda BMA Cymru, sy'n darparu oriau agor estynedig mewn tua 10% o feddygfeydd Cymru. Bydd y wefan cleifion newydd Fy Iechyd Ar-lein yn ei gwneud yn haws i bobl sy'n gweithio drefnu apwyntiad yn eu meddygfa leol.
(ii) Ehangu Dechrau’n Deg
Rydym am sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau yn eu bywydau ac fel rhan o hyn byddwn yn:
· Dyblu nifer y plant sy'n elwa yn sgil gwella gwasanaethau ymwelwyr iechyd, lleoedd meithrin am ddim a gwell cefnogaeth i deuluoedd trwy ein rhaglen Dechrau’n Deg; ac
· Ymestyn cyrhaeddiad y rhaglen a dyblu nifer y rhai sydd ar eu hennill o Dechrau’n Deg i 36,000, fel bod bron i chwarter holl blant Cymru rhwng 0-3 oed yn gallu elwa ohoni.
(iii) Cyflwyno Archwiliadau Iechyd i bobl dros 50 oed
Rydym yn bwriadu parhau i ddatblygu ymagwedd fwy ataliol tuag at ofal iechyd, trwy gyflwyno rhaglen o archwiliadau iechyd blynyddol i bobl dros 50 oed. Bydd yr archwiliadau hyn yn helpu i sicrhau bod asesiad a chyngor strwythuredig ar gael yn hwylus.
(iv) Gwella diagnosis a thriniaeth Canser
Mae rhoi Cynllun i Fynd i'r Afael â Chanser yng Nghymru ar waith er mwyn cyflenwi cyfraddau achosion, marwolaethau a goroesiad yng Nghymru sydd ymysg y gorau yn Ewrop erbyn 2015 yn dal i fod yn flaenoriaeth. Er mwyn cyfeirio ac arwain gweithgaredd ar lefel genedlaethol a lleol i gyflawni ein nodau, rydym yn datblygu Cynllun Cyflenwi Cymru gyfan ar gyfer Canser, sy'n cael ei lywio gan y ddogfen bolisi a gynhyrchwyd gan Cymorth Canser Macmillan ym mis Mawrth, er mwyn helpu i sicrhau ffocws ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn gweithio gyda Macmillan i symud y templed cynllun gofal drafft y maent wedi’i baratoi yn ei flaen, ac a fydd, ynghyd â'r rôl Gweithiwr Allweddol a gyflwynwyd ers 1 Ebrill 2011, yn helpu i sicrhau ymagwedd fwy cyfannol tuag at asesu anghenion unigol y claf. Er mwyn helpu i ddeall beth sydd angen i ni ei wneud yn well, megis diagnosis mwy cynnar o ganser, mae Cymru yn cymryd rhan ym Mhartneriaeth Ryngwladol Meincnodi Canser.
(v) Gwella Gofal Strôc
Mae atal strôc a’i drin fel argyfwng meddygol yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae gan Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) gynlluniau gweithredu yn eu lle ar gyfer cyflawni safonau a chanllawiau cenedlaethol erbyn 2015. Erbyn hyn mae BILlau yn perfformio'n well ar y cyfnod dwys o ofal, ond gofynnwyd iddynt ymrwymo i amserlen ffurfiol gyda golwg ar pryd y byddant yn cydymffurfio'n llawn ym mhob ysbyty sy’n derbyn cleifion strôc. Rydym wedi buddsoddi mewn offer telefeddygaeth i gefnogi'r gwaith o gyflwyno gwasanaeth thrombolysis 24 / 7 ar draws Cymru er mwynhelpu i optimeiddio canlyniadau. Mae offer monitro ar gyfer y targedau deallus i roi diagnosis ac ymateb i achosion o strôc bach ac ar gyfer adsefydlu cynnar yn cael eu datblygu, a bydd y rhain yn gweithredu fel offeryn grymus i wella ansawdd y gofal.
(vi) Mynd i'r afael â Chlefyd y Galon
Mae clefyd y Galon yn dal yn lladdwr mawr yng Nghymru ond ein nod yw cyflawni cyfraddau achosion a marwolaethau a fydd yn cymharu gyda'r gorau yn Ewrop erbyn 2015. Mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd y Galon yn gosod amrediad o safonau i sicrhau gofal o ansawdd uchel ac mae gan bob BILl Gynllun Cyflenwi yn ei le ar gyfer y Fframwaith. Er mwyn cyfeirio ac arwain gweithgaredd ar lefel genedlaethol a lleol ac i ategu Cynlluniau Cyflenwi’r BILlau, rydym yn datblygu Cynllun Cyflenwi Cymru gyfan ar gyfer Clefyd y Galon.
(vii) Gweithredu Ein Dyfodol Iach
Mae parhau i ailgloriannu cynllunio ac adnoddau'r gwasanaeth iechyd tuag at atal ac ymyrraeth gynnar yn hanfodol. Un o amcanion allweddol y GIG dros y pum mlynedd nesaf yw gwneud mwy i ddiogelu a gwella iechyd pawb. Adlewyrchir hyn yn Fframwaith Ansawdd Blynyddol 2011/12 a'r gofyniad i BILlau gynhyrchu Fframweithiau Strategol Iechyd Cyhoeddus Lleol. Fel rhan o hyn, mae gweithredu'r Cynllun Gweithredu Strategol Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb: Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd a gyhoeddwyd y llynedd yn flaenoriaeth allweddol. Mae'r cynllun gweithredu yn nodi gweledigaeth ar gyfer gwella iechyd a lles pawb, gyda chyflymder y gwelliant yn cynyddu yn gymesur â lefel yr anfantais. Mae'n gosod targed newydd i wella disgwyliad oes iach i bawb ac i gau'r bwlch rhwng pob cwintel o amddifadedd ar gyfartaledd o 2.5% - erbyn 2020.
Y brif ymgyrch iechyd cyhoeddus bresennol yw Newid am Oes, ymgyrch wedi'i hariannu ar draws adrannau Llywodraeth (£90k yr un gan Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Treftadaeth a’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth) i annog pobl i fwyta’n fwy iach a chynyddu gweithgarwch corfforol. Yn unol ag ymrwymiad y maniffesto, mae cynigion yn cael eu cwmpasu ar hyn o bryd i ehangu Newid am Oes i gynnwys alcohol, ac mae dewisiadau ymgyrchu ar roi'r gorau i ysmygu hefyd yn cael eu hystyried.
Mae gwerthusiadau o ymgyrchoedd rhoi'r gorau i ysmygu sy'n canolbwyntio ar y cyfryngau torfol wedi nodi y gall yr ymgyrchoedd hynny adeiladu gwybodaeth, newid safbwyntiau ac agweddau allweddol, cynyddu galwadau i linellau rhoi'r gorau i ysmygu, a chyfrannu, ar y cyd ag elfennau rhaglen rheoli tybaco eraill, at ostyngiad cyffredinol yn y defnydd o dybaco a chynyddu’r niferoedd sy’n rhoi'r gorau i ysmygu. Mae Cynllun Gweithredu Rheoli Tybaco drafft ar gyfer Cymru yn cydnabod bod angen rhoi ystyriaeth ofalus i unrhyw ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn y dyfodol, ac rydym yn ystyried pa gamau y gallwn eu cymryd i wahardd ysmygu mewn cerbydau. Rydym yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu drafft a byddwn yn lansio’r Cynllun diwygiedig yn yr hydref, a fydd yn cynnwys camau gweithredu ar ymgyrchoedd rhoi'r gorau i ysmygu.
(viii) Ymateb i’r Adroddiad Urddas mewn Gofal
Rydym eisoes wedi cymryd camau i ymateb i adroddiad gan y Comisiynydd Pobl Hŷn ac rwyf wedi nodi manylion hyn yn y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2011. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda staff GIG i'w galluogi i dreulio mwy o amser gyda chleifion hŷn, gan roi’r parch a’r cymorth dyledus iddynt. Er mwyn sicrhau cydymffurfiad â’r safonau diwygiedig diweddar, rwyf wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal archwiliadau ar hap ar safonau urddas mewn gofal ar gyfer pobl hŷn yn ein hysbytai. Bydd fy swyddogion hefyd yn gweithio'n agos gyda’r BILlau, monitro gweithrediad eu Cynlluniau Gweithredu a baratowyd mewn ymateb i adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn.
(ix) Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Mae gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel, gyda'r angen i ddatblygu gwasanaethau cyson sydd ar gael yn hwylus i bob person ifanc. O fewn y flwyddyn ddiwethaf, lansiwyd cynllun gweithredu cenedlaethol i wella gwasanaethau iechyd meddwl plant. Byddwn yn parhau i gryfhau’r amrediad o CAMHS, yn cynnwys mynediad at wasanaethau arbenigol i’r glasoed hŷn a phobl ifanc.
Mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl oedolion, rydym eisoes yn gweithio i weithredu’r Mesur Iechyd Meddwl a’r Ddogfen Gweledigaeth Dementia. Rydym hefyd yn edrych yn agos ar ganfyddiadau Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth ynddo i baratoi fframwaith strategol newydd ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru.
(x) Cynnal a Gwella Perfformiad y GIG
Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn dal i gael eu gweld a’u trin o fewn ein targedau amser aros ar gyfer atgyfeirio am driniaeth (RTT) ac rydym am gynnal ac adeiladu ar y perfformiad yma.
Dengys y ffigurau diweddaraf ar gyfer diwedd Mawrth 2011, os caiff arbenigedd orthopedig ei hepgor, bod y perfformiad amser aros i Gymru gyfan yn dal i fod yn uwch na'r targed 95% 26 wythnos, ac mae wedi bod felly ers Hydref 2009. Bydd gwella’r perfformiad ar gyfer cleifion orthopedig yn flaenoriaeth am y flwyddyn gyfredol.
Byddwn yn parhau â’r gwaith o dan y Fframwaith Ansawdd Blynyddol i ganolbwyntio ar ganlyniadau cleifion. Cyflwynir y Fframwaith Cyflenwi i gefnogi gweithrediad y Fframwaith Ansawdd Blynyddol i'r GIG yn y mis yma.
(xi) Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
Mae gwneud defnydd gwell o TGCh yn profi’n ffordd effeithiol o gyflenwi’r arbedion rydym eu hangen yn ogystal â lleihau niwed, gwastraff ac amrywiadau.
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrthi’n cyflwyno gwasanaethau digidol newydd a fydd yn cyflenwi cofnod electronig integredig am gleifion, gan roi mynediad i glinigwyr at wybodaeth hanfodol, pryd a lle y mae ei hangen. Fe all staff iechyd ddefnyddio gwasanaethau ar-lein i adnabod y claf y maent yn ei drin yn gywir, cofnodi gwybodaeth a gweld hanes meddygol y claf, neu archebu profion a gweld y canlyniadau ar-lein - dim mwy o redeg ar ôl adroddiadau papur. Yn gynyddol fe all cleifion a dinasyddion gael mynediad hwylus at wasanaethau gwybodaeth o faterion lles i drefnu apwyntiadau a gweld canlyniadau profion.
Rydym hefyd yn ystyried defnydd mwy strategol o dechnolegau a gwasanaethau digidol megis teleiechyd, telefeddygaeth a theleofal, i gyflenwi gofal yn nes adref, gan alluogi pobl i fyw’n annibynnol yn hirach, grymuso gweithwyr gofal a helpu i fynd i'r afael â rhai o heriau ein poblogaeth sy’n heneiddio’n gyson.
(xii) Datblygu Strategaeth Iaith Gymraeg
Mae cryfhau darpariaeth llinell flaen yn yr iaith Gymraeg mewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol. Mae gwaith ar ddogfen Strategol eisoes ar droed a byddwn yn ymgynghori ar y cynigion yn ddiweddarach eleni.
Rhaglen Ddeddfwriaethol
Mae ein rhaglen ddeddfwriaethol gysylltiedig ag iechyd ar gyfer y Cynulliad yma yn dal dan drafodaeth ond mae ein blaenoriaethau’n cynnwys:
(i) Cynyddu Rhoi Organau
Yn ei ddatganiad ar flaenoriaethau deddfwriaethol cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Bil Rhoi Organau yn cael ei gyflwyno i ddarparu ar gyfer system o ddewis peidio â rhoi organau, wedi’i gefnogi gan raglen addysgu gynhwysfawr. Sylfeinir y Bil ar waith polisi manwl ar amrediad o faterion cymhleth yn ymwneud â goblygiadau gweithrediadol, technegol, cyfreithiol ac ariannol cyflwyno system feddal o ddewis peidio â rhoi organau yng Nghymru.
(ii) Cydsyniad Rhieni ar gyfer Tyllu Cosmetig
Rydym wedi ymrwymo i ymgynghori ynghylch a ddylid cyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n gofyn am gyfranogiad a chydsyniad rhieni ar gyfer gweithdrefnau tyllu cosmetig ar berson ifanc o dan oedran penodol. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw oed cydsynio statudol ar gyfer tyllu cosmetig ac mae tyllu o'r fath o dan oed yn gyfreithlon, ar yr amod bod cydsyniad dilys yn cael ei roi - y gall yr unigolyn dan oed ei hun ei roi os yw ef neu hi yn gallu deall natur y weithred a gyflawnir. Bwriedir cyhoeddi dogfen ymgynghori, yn ceisio barn ar gyflwyno’r polisi. Unwaith y bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn hysbys byddaf yn penderfynu ynghylch sut i symud ymlaen.
(iii) Gweithredu Rheoliadau'r Mesur Iechyd Meddwl
Pasiwyd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 gan y Cynulliad Cenedlaethol yn Nhachwedd 2010, a derbyniodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010. Mae ei amcanion polisi allweddol fel a ganlyn:
· Ehangu gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl sylfaenol lleol;
· Gwella cydlynu a chynllunio gofal ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
· Gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i ddefnyddwyr blaenorol y gwasanaeth; ac
· Ehangu Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) ar gyfer cynorthwyiadau tymor byr, nad ydynt ar hyn o bryd yn cynnwys y cam diogelu yma, a chleifion anffurfiol.
Bydd y Mesur a’i is-ddeddfwriaeth gysylltiedig, ac arweiniad statudol ac anstatudol, yn cefnogi cyflenwi gofal modern, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, a bydd hefyd yn sicrhau bod gan bob claf o fewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gynllun gofal a thriniaeth unigol sy'n cael ei oruchwylio gan gydlynydd gofal. Bydd y cydlynydd gofal yn gweithio gyda'r claf, a gofalwyr lle mae hynny’n berthnasol, er mwyn llunio’r cynllun a’i adolygu’n rheolaidd.
(iv) Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Rydym hefyd yn ystyried deddfwriaeth i alluogi Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau gorfodol ar gyfer mesur iechyd cyhoeddus syml ond effeithiol i ddarparu gwybodaeth hawdd ei deall, gyflym i ddefnyddwyr ar safonau hylendid busnes bwyd, fel eu bod yn gallu gwneud dewisiadau mwy gwybodus am le i fwyta allan neu siopa am fwyd.
Dangosodd yr achos E. coli yn Ne Cymru yn 2005 pa mor bwysig yw diogelwch bwyd. Bydd y cynllun yn gorfodi’r trefniadau gwirfoddol ond anghyflawn presennol i arddangos sgoriau Hylendid Bwyd ac felly’n helpu i wella diogelwch bwyd a gwarchod iechyd cyhoeddus a buddiannau defnyddwyr.
Arweiniodd cynlluniau tebyg yn Nenmarc at gynnydd o 70% i 86% mewn busnesau gyda hylendid bwyd da ac yn Nghaliffornia gwelwyd gostyngiad o 13% yn y niferoedd a dderbyniwyd i ysbytai oherwydd clefydau cysylltiedig â bwyd.
(v) Deddfwriaeth Iechyd Cyhoeddus
Roedd y ddogfen bolisi Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb: Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd mewn Cynlluniau Gweithredu Strategol yn addo gweithredu er mwyn cryfhau’r ffocws ar gau'r bwlch anghydraddoldebau iechyd a chyflwyno targed ar gyfer cau'r bwlch.
Roedd y maniffesto’n cynnwys ymrwymiadau ar leihau anghydraddoldebau iechyd. Rydym bellach yn ystyried yr angen i ddarparu sail ddeddfwriaethol i gyflenwi disgwyliad oes a lles gwell a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
ATODIAD 2: GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU
Blaenoriaethau ac Ymrwymiadau
Mae llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ac yn uchelgeisiol drostynt. Amlinellir ein gweledigaeth a’n dyheadau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu ac yn y maniffesto. Mae tegwch a lles pawb yn werthoedd cwbl greiddiol i’r rhain ynghyd â chred mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi eu gwreiddio mewn syniad bod angen i bobl wybod, pan fydd angen gwasanaethau gofal cymdeithasol arnynt, y gallant gael y gofal y mae arnynt ei angen nid dim ond y gofal y gallant ei fforddio
Rydym yn ymrwymedig i wasanaethau
cymdeithasol integredig o fewn llywodraeth leol, gan sicrhau
cynaliadwyedd, ac atgyfnerthu ein ethos o wasanaethau
cymdeithasol wedi eu hadeiladau o gylch llais cryf i ddinasyddion,
yn hytrach nag ar fodel defnyddwyr o ddewis a hunan-gyfrifoldeb
annibynnol i unigolion.
Pwnc ein rhaglen yw’r llywodraeth yn cydweithio gyda’i phartneriaid a chymunedau a theuluoedd er mwyn sicrhau fod gennym wasanaethau da pan fo’u hangen. Mae ymgysylltu pobl â gwasanaethau ar bob lefel yn flaenoriaeth. Ein cymdeithas ni yw hon; ein cymunedau; ein teuluoedd; a’n plant a phobl ifanc. Mae pob un ohonom yn chwarae rhan gyda’n gilydd – ac yng Nghymru mae hynny’n cynnwys y llywodraeth.
Ar y cyfan, rydym am adeiladu
patrwm o wasanaethau cymdeithasol sydd wedi’i seilio ar
bwysigrwydd ymyrraeth gynnar. Rydym yn awyddus i helpu pobl pan
fo’u trafferthion yn dechrau yn y lle cyntaf, nid aros nes
fod y broblem wedi gwreiddio.
Rydym yn datblygu ar sail ein
cryfderau. Rydym wedi diogelu gwasanaethau cymdeithasol yn
setliad y gyllideb. Cafwyd cytundeb ynghylch gwasanaethau
cymdeithasol ar draws rhanddeiliaid a phartneriaid. Rydym
wedi cryfhau llais gofalwyr. Gosodwyd cyfyngiadau ariannol gennym
ar gost cymorth trwy ein Mesur Camau Cyntaf ac rydym wedi cyflwyno
Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd yn raddol. Mae’r
gweithlu wedi cael ei gryfhau.
Ond gwyddom fod rhaid i ni wneud
mwy os ydym am wynebu’r heriau. Bydd natur newidiol y
gymdeithas Gymreig, disgwyliadau mwy eglur ar ran y rheini
sy’n defnyddio gwasanaethau, newid demograffig - ynghyd
â’r hinsawdd ariannol anodd ar hyn o bryd - i gyd yn
gosod gofynion ar wasanaethau cymdeithasol a fydd yn effeithio ar y
modd y bydd y gwasanaethau hynny’n cael eu cyflenwi yn ystod
y degawdau sydd i ddod.
Rhaid i gynaliadwyedd mewn
gwasanaethau cymdeithasol olygu rhanddeiliaid a phartneriaid yn
cydweithio, a defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn ganolog i’r
bartneriaeth a’r cydweithio hwnnw.
Mae’r blaenoriaethau allweddol yn cynnwys:
(i) Arweiniad a Chyfeiriad
Rydym yn cryfhau’r
trefniadau arwain ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol trwy sefydlu
fforwm partneriaeth cenedlaethol, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy
Weinidog. Trwy gyfrwng y trefniadau hyn byddwn yn gosod diben
cenedlaethol cryf, cyfeiriad cenedlaethol amlwg a
disgwyliadau cadarn.
(ii) Canlyniadau Cenedlaethol
Cyhoeddir fframwaith newydd o ganlyniadau cenedlaethol i gefnogi’r cyfeiriad cenedlaethol a thanategir y rhain gan gyfres o ddangosyddion fydd yn galluogi defnyddwyr a darparwyr ddeall a chael dweud eu dweud am natur ac ansawdd gwasanaethau yn eu hardal. Rydym yn adolygu ein hymagwedd tuag at wella er mwyn sicrhau ei bod yn cydredeg â’n fframwaith cyfeiriad a chanlyniadau cenedlaethol.
(iii) Lleihau Cymhlethdod a datblygu mwy o gydweithio ac integreiddio
Byddwn yn blaenoriaethu gwaith i leihau cymhlethdod a gorgyffwrdd trwy ragor o gydweithio ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol a byddwn yn pwyso am integreiddio gwasanaethau’n well ar draws sefydliadau. Rhaid i ni ddatblygu gwasanaethau o gylch pobl, nid sefydliadau. Rydym wedi gofyn i lywodraeth leol ystyried sut y byddant yn ymateb i’n blaenoriaethau a byddant yn adrodd i ni erbyn diwedd y flwyddyn.
Rydym yn disgwyl i rai
gwasanaethau gael eu darparu’n genedlaethol yng Nghymru (fel
gwasanaethau mabwysiadu), ac os oes rhaid, byddwn yn gorfodi
hyn. Byddwn yn disgwyl gweld rhai gwasanaethau eraill yn cael
eu darparu’n rhanbarthol (megis comisiynu a
gwasanaethau arbenigol).
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu
ail-alluogi ar draws Cymru gyfan. Mae nifer o
astudiaethau’n awgrymu y gellir lleihau’r galw am ofal
cartref o gymaint o 60% os darperir ail-alluogi, gan arbed costau
sylweddol i gynghorau a gwell canlyniadau i unigolion.
(iv)
Diogelu
Rydym yn ymrwymedig i symleiddio a chryfhau ein trefniadau diogelu ar gyfer plant ac oedolion. Byddwn yn sefydlu bwrdd diogelu cenedlaethol ar gyfer plant ac oedolion i ddarparu arweiniad cenedlaethol ac i hyrwyddo safonau uchel a chyflwyno fframwaith statudol mwy cadarn ar gyfer amddiffyn oedolion yng Nghymru.
(v) Datblygu’r gweithlu a lleihau a symleiddio rheoleiddio ac arolygu
Mae angen i ni barhau i
ganolbwyntio ar y gweithlu ac i gryfhau cyfraniad staff rheng flaen
fel gweithwyr proffesiynol yn arbennig, er enghraifft trwy
radd gyrfa ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Rydym am sicrhau
mai’r darparwr gwasanaethau a’r comisiynydd sy’n
atebol am ansawdd a gwella diogelwch. Os gwnawn y pethau hyn,
gallwn gryfhau a symleiddio rheoleiddio a gwneud arolygu’n
llai o faich.
Rhaglen Gyfreithiol
Mae ein rhaglen gyfreithiol gofal cymdeithasol ar gyfer y Cynulliad hwn yn dal dan drafodaeth ond mae ein blaenoriaethau’n cynnwys yr ymrwymiadau a amlinellir yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ac yn ein maniffesto. Dyma fydd sail ein Bil Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn cael lle amlwg yn y rhaglen gyfreithiol, yn ôl y Prif Weinidog.
Bydd y Bil am y tro cyntaf, yn darparu fframwaith cyfreithiol Cymreig cydlynol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, wedi ei seilio ar yr egwyddorion a nodwyd gennym yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Bydd yn sicrhau llais cryf a rheolaeth wirioneddol i bobl sydd angen gwasanaethau, beth bynnag eu hoed, yn seiliedig ar eu hawliau fel dinasyddion, gan sicrhau y byddant yn gallu cynyddu eu lles i’r eithaf. Bydd yn cydnabod ein bod i gyd yn disgwyl i’n teulu, ein cyfeillion a’n cymunedau ein cefnogi pan fyddwn yn wynebu problemau. Bydd yn sicrhau bod swyddogaeth weithredol i wasanaethau cyhoeddus mewn cefnogi pobl. Bydd yn gosod y fframwaith cyfreithiol a’r seilwaith a fydd yn trawsnewid gwasanaethau fel y gallant fodloni disgwyliadau cymdeithasol sy’n newid, demograffeg sy’n newid a’r amgylchedd adnoddau sydd o’n blaenau nawr.
Hoffem yn arbennig i’r Bil egluro a symleiddio dyletswyddau llywodraeth leol a phartneriaid allweddol eraill i:
· rymuso a chryfhau llais pobl a rheoli’r gofal a’r cymorth y maen nhw yn ei dderbyn;
· cynllunio a chyflenwi gwasanaethau gyda’n gilydd i hwyluso cydweithio a datblygu modelau integredig newydd o gyflenwi gwasanaethau;
· cael rôl gryfach mewn diogelu a hyrwyddo lles pobl trwy gydol eu bywydau (bydd hyn yn cynnwys ystyried rôl Byrddau Lleol Diogelu Plant);
· cyflwyno asesiadau cludadwy a meini prawf cymhwysedd cenedlaethol er mwyn sicrhau tegwch wrth gael gafael ar gymorth;
· rhoi safonau cyffredin ar waith o ran y gofal a’r cymorth fydd yn cael eu darparu;
· gweithio o fewn trefniadau perfformiad a llywodraethu llym sy’n dryloyw, yn gwneud herio’n bosibl ac yn hyrwyddo hyder pobl Cymru.
ATODIAD 3: DIWEDDARIAD AR FATERION SYDD WEDI’U HETIFEDDU O’R ADRODDIADAU PWYLLGOR IECHYD, LLES A LLYWODRAETH LEOL BLAENOROL
Bydd y Pwyllgor yn ymddiddori yn y cynnydd diweddar ar y materion dilynol, y cyfeirir atynt yn Natganiad Etifeddiaeth y Pwyllgor blaenorol:
(i) Gwasanaethau Mamolaeth
Ar ôl ymgynghori, rydym yn bwriadu cyhoeddi fersiwn derfynol o Gweledigaeth
Strategol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru ym mis Medi Mae’n amlinellu rhaglen weithredu ar lefel genedlaethol a lleol i wireddu ein gweledigaeth, sef y dylai beichiogrwydd a genedigaeth fod yn brofiadau diogel a chadarnhaol sy’n golygu fod y fam, ei phartner a’r teulu’n dechrau rhianta gan deimlo’n hyderus, ac yn abl, ac yn teimlo fod ganddynt gefnogaeth wrth roi cychwyn diogel mewn bywyd i’w plentyn. Bydd Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan yn arwain ac yn goruchwylio’r broses hon.
(ii) Cynllunio Gweithlu
Fel y nododd y Pwyllgor blaenorol, rhaid moderneiddio’r gweithlu er mwyn bodloni anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl Cymru yn y dyfodol, a’r unig ffordd i gyflawni hynny yw trwy arferion gwaith newydd a newidiadau i rolau gweithwyr proffesiynol a staff cymorth. Mae GIG Cymru’n cyflogi 83,478 o staff, sy’n cyfateb i 72,023 o staff cyfwerth ag amser llawn. Bydd nifer y stad dan gontract mewn swyddi yn lleihau o 518 cyfwerth ag amser llawn rhwng Mai 2010 ac Ebrill 2011.
Mae trefniadau Cynllunio Gweithlu wedi eu cryfhau yng Nghymru yn sgil creu’r Grŵp Cyflenwi Addysg Strategol newydd. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys y gweithlu cyfan ac yn cynghori ar anghenion dysgu a datblygu cyfredol ac i’r dyfodol i fodloni datblygiadau moderneiddio gwasanaeth a gweithlu. Mae yn Fforwm aml-sgiliau/ amlasiantaeth yw’r Grŵp Cyflenwi Addysg Strategol yn cynnwys pob proffesiwn, cynrychiolaeth o sefydliadau Addysg Uwch; y trydydd sector, undebau llafur a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Mae’r grŵp yn gyfrifol am alinio cynllunio addysg, hyfforddiant a’r gweithlu
Disgwylir i’r diwydiant gofal cymdeithasol dyfu’n sylweddol dros y deng mlynedd nesaf gyda galw am staff ag amrediad sgiliau eang yn sgil hynny. Mae cynllunio’r gweithlu mewn gofal cymdeithasol yn cynnwys dull o weithredu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Gofal Cymru, Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydliadau yn y sector annibynnol. Gwnaed gwaith helaeth ar ddatblygu model i ragfynegi galw a chynllunio’r cyflenwad gweithwyr cymdeithasol. Amlinellir gwaith pellach ar gasglu gwybodaeth ar y gweithlu drwy’r system reoleiddio yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru.
(iii) Buddsoddiad mewn Gwasanaethau Cadair Olwyn
Yn dilyn yr Adolygiad Cadeiriau Olwyn, mae £2.2 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau cadeiriau olwyn yn arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’r arian wedi ei ddyrannu bellach ac yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i ddyblu nifer y staff clinigol ar draws Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod anghenion unigolion yn cael eu hasesu’n gynt ac yn golygu y gallant gael y gadair olwyn fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion. Mae’r arian hefyd yn cefnogi mwy o hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a’u gofalwyr. Rydym hefyd yn cydweithio â’r Groes Goch Brydeinig i sicrhau gwell gwasanaethau i’r rheini sydd angen benthyg cadair olwyn am gyfnodau byr.
Mae gwaith i wella gwasanaethau o dan yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd wedi cyflwyno newidiadau’n barod, yn arbennig i reoli amseroedd aros, gwella prosesau cyfeirio, a chwtogi amseroedd aros drwy hynny. Mae eglurder ynglŷn â meini prawf cyfeirio, ynghyd â gwell cyfathrebu, yn fodd o sicrhau bod cleifion a gofalwyr yn cael gwell gwybodaeth am ba bryd y bydd eu cadair olwyn yn cyrraedd.
(iv) Orthodonteg
Roedd adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol blaenorol, ac adolygiad ar wahân a gafodd ei gynnal gan banel o arbenigwyr, yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru, BILlau a’r proffesiwn deintyddol eu hystyried. Roedd yr argymhellion yn cynnwys datblygu Rhwydweithiau Clinigol a Reolir er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gan gynnwys rheoli’r cleifion hynny sy’n aros am driniaeth. Mae argymhellion eraill yn cynnwys gwaith cysylltiedig â datblygu gwasanaeth, newidiadau i ddeddfwriaeth, ynghyd â gwell cyfeirio a monitro. Rhoddwyd canllawiau dros dro i BILlau a’r proffesiwn yn barod wedi eu seilio ar argymhellion o’r adolygiad, a sefydlwyd proses weithredu i ystyried argymhellion pellach oedd wedi eu cynnwys yn adroddiadau’r grŵp arbenigwyr a’r Pwyllgor dros y misoedd nesaf.
(v) Gofal Cynenedigol yng Nghymru
Yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru i Ymchwiliad y Pwyllgor blaenorol i Wasanaethau Cynenedigol yng Nghymru, mae’r BILlau wedi rhoi Cynllun Gweithredu Cymru Gyfan ar Waith, trwy Dîm Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a’r Rhwydwaith Clinigol Cynenedigol newydd enedigol i weithredu’r gwelliannau gwasanaeth a nodwyd. Ar hyn o bryd mae BILlau unigol wrthi’n datblygu Cynlluniau Gweithredu i sbarduno gweithgaredd lleol. Mae’r datblygiadau diweddar yn cynnwys Ambiwlans arbennig â chyfarpar sydd nawr ar waith yn Ne Cymru i drosglwyddo babanod gwael a rhai a aned cyn eu hamser.
(vi) CAFCASS Cymru
Rydym yn gwneud cynnydd gyda’r adolygiad o wasanaethau cyswllt plant sydd ar gael ar hyd a lled Cymru ar hyn o bryd. Bydd hwn wedi ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2011. Mae CAFCASS Cymru hefyd yn gweithio’n glòs gyda chydweithwyr polisi i ystyried sut y gellir darparu cymorth cyson, priodol i wella gwasanaethau i deuluoedd sy’n cael problemau o ran sicrhau cyswllt gyda’u plant ar ôl gwahanu.
Cyfarfu Prif Weithredwr CAFCASS Cymru â Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Cymru Gyfan ym mis Mai. Sefydlwyd grŵp tasg a gorffen i gyd-gytuno ar fframwaith ymgysylltu rhwng darparwyr eiriolaeth a CAFCASS Cymru i wella a datblygu perthynas waith fwy effeithiol yng nghyswllt eiriolaeth i blant a phobl ifanc.