Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) |
Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill |
CADRP-469 |
CADRP-469 |
Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.
Amdanoch Chi
Unigolyn
- Nac ydw
Does dim rheswm cadarnhaol o blaid cefnogi egwyddorion y Bil o ddiddymu amthiffyniad cosb rhesymol yng Nghymru.Fe all wneud niwed mawr i deuluoedd a rhieni sydd a gofal gariadus am eu plant a'u cael yn euog o drosedd am smacio plentyn mewn modd disgybleig. Nid camdrin plant ydy smacio.
Na.Ni ddylid dod a deddf allan sydd yn mynd i griminaleiddio rhieni call syn gwbod sut i ddisgyblu plant.mae hefyd yn wast ar arian y llywodraeth ac yn gamddefnydd o amser prin yr heddlu i fynd ar ol pobl dieuog.Hawl y rhiant nid llywodraeth ydy penderfynu a yw smacio yn beth da neu ddrwg.Mae'r gyfraith yn amddiffyn plant yn barod rhag trais
maer gyfraith yn amddiffyn plant rhag trais yn barod. Does dim angen gwastraffu arian ac adnoddau prin ar ddod a deddf i rym. Nid camddrin plant ydy smacio. mae gwahaniaeth rhwng camdrin a disgyblaeth gariaus. Fe gymerir yr hawl hyn oddi wrth rieni pe bain dod i rym.
Na. Ni ddylair wladwriaeth ddefnyddior gyfraith i reoli magu plant
Oes. Mi all greu poen ,niwed a dinistrio bywyd teulu petai rhieni syngwybod sut i ddisgyblu yn eu cael yn euog.
Oes. gwastraff arian a gwastraff ar adnoddau ac amser prin yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol. Mewn sefyllfaoedd difrifol o achosion o gamdrin plant bydd dim amser i delio ar rheini gan y byddant yn cael eu gorlwytho ag achosio bach.
Cafodd llawer o oedolion eu smacio pan yn blant ond chafodd hynny ddim effaith ddrwg arnynt. Dywedir bod tua 80% wedi eu smacio pan yn blantNi fu unrhyw gwyn bod rhieni hynny yn camdrin eu plant.Mae angen disgyblaeth ar blentyn yn y cartref a threfn a therfynau fel smacio, heddo gall niweidio cymdeithas.Gellir defnyddio smacio i rybuddio plentyn o beryglon cyn eu bod yn ddigon hen i ddeall rhybudd a thrafod., Peth erchyll fyddai ir rhieni hynny cael eu galw yn dreiswyr au cosbi pan maent yn cymryd camau bychain i ddisgyblu eu plant.Teimlaf yn gryf bod anen rhoi diwedd ar y trafod ar ymgais i gael bil yma trwyr senedd.