R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant ffermio yng Nghymru? OAQ(5)0726(FM)
2. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiswyddiadau staff ym mhrifysgolion Cymru? OAQ(5)0727(FM)W
3. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yng Nghwm Cynon yn mynd heb fwyd yn ystod gwyliau'r ysgol? OAQ(5)0715(FM)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglenni cyflogadwyedd yng Nghymru? OAQ(5)0713(FM)
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0712(FM)
6. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog unigolion i ddysgu ieithoedd newydd? OAQ(5)0724(FM)
7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr addysgu ieithoedd modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru? OAQ(5)0725(FM)W
8. David Melding (Canol De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd? OAQ(5)0720(FM)
9. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fenywod mewn chwaraeon yng Nghymru? OAQ(5)0719(FM)
10. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth i gyrchfannau twristiaeth Cymru? OAQ(5)0722(FM)
11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(5)0714(FM)
12. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ag awdurdodau lleol ynghylch taliadau tai yn ôl disgresiwn? OAQ(5)0718(FM)
13. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei asesiad o barhad yr ardal deithio gyffredin ar ôl Brexit? OAQ(5)0721(FM)
14. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0717(FM)
15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud Trafnidiaeth Cymru yn dryloyw ac yn atebol i bobl Cymru, yn dilyn caffael y fasnachfraint rheilffyrdd newydd? OAQ(5)0723(FM)