Pobl y Senedd

Carwyn Jones AS

Carwyn Jones AS

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Pen-y-bont ar Ogwr

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd?

Wedi'i gyflwyno ar 04/03/2021

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gefnogaeth Llywodraeth y DU i feysydd awyr ledled y DU?

Wedi'i gyflwyno ar 21/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddiaeth yn ystod pandemig COVID-19?

Wedi'i gyflwyno ar 03/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen brechu rhag y ffliw eleni?

Wedi'i gyflwyno ar 08/10/2020

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod pandemig y coronafeirws?

Wedi'i gyflwyno ar 24/09/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y strategaeth profi, olrhain a diogelu ar gyfer coronafeirws?

Wedi'i gyflwyno ar 10/09/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Carwyn Jones AS

Bywgraffiad

Roedd Carwyn Jones yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Hanes personol

Cafodd Carwyn Jones ei eni yn Abertawe a’i fagu ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan deulu o siaradwyr Cymraeg.  Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yna aeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.

Cefndir proffesiynol

Hyfforddodd Carwyn fel bargyfreithiwr yn Ysgol y Gyfraith, Neuaddau'r Brawdlys Llundain ac fe'i alwyd i’r Bar yn Gray's Inn ym 1989.  Dechreuodd arfer ei grefft fel bargyfreithiwr a bu mewn practis cyfreithiol am 10 mlynedd yn Siambrau Gŵyr, Abertawe. Am ddwy flynedd, bu Carwyn hefyd yn gweithio fel tiwtor proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd ar Gwrs Galwedigaethol y Bar.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Carwyn Jones i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999.  Ym mis Chwefror 2000, cafodd ei benodi’n Ddirprwy Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Thir. Cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ym mis Gorffennaf 2000 ac, ym mis Chwefror 2002, daeth yn Weinidog dros Lywodraeth Agored, a bu yn swydd honno tan etholiad 2003.

Ar ôl yr etholiad hwnnw, daeth yn Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, gan ddal y swydd honno tan fis Mai 2007. Yn dilyn cyfnod byr fel y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, daeth yn Gwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ.

Daeth yn Brif Weinidog ac Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2009.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB

Tymhorau yn y swydd

  1. 07/05/1999 - 30/04/2003
  2. 02/05/2003 - 02/05/2007
  3. 04/05/2007 - 31/03/2011
  4. 06/05/2011 - 05/04/2016
  5. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Carwyn Jones AS