R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â lleoli carchar newydd ym Maglan? OAQ(5)0702(FM)
2. Nick Ramsay (Mynwy): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gydnabod yr heriau ychwanegol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig o ran dyrannu cyllid llywodraeth leol? OAQ(5)0697(FM)
3. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran diwygio llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(5)0698(FM)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at gynnyrch tybaco yng Nghymru? OAQ(5)0695(FM)
5. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr? OAQ(5)0710(FM)W
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd llwyddiant ym myd chwaraeon o ran hyrwyddo Cymru i'r byd? OAQ(5)0694(FM)
7. Hefin David (Caerffili): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i weithredu argymhellion Adroddiad y Tasglu Model Cyflenwi Gweinidogol a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror 2017? OAQ(5)0703(FM)
8. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem o fod yn llwglyd yn ystod y gwyliau ymysg plant ysgol yng Nghymru? OAQ(5)0706(FM)
9. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol masnachfraint reilffordd Cymru a'r Gororau? OAQ(5)0708(FM)
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gryfhau'r rheoliadau adeiladu yn sgil trychineb Tŵr Grenfell? OAQ(5)0707(FM)
11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyd-adolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0711(FM)
12. David Melding (Canol De Cymru): Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog o ran datblygu economaidd yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0700(FM)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro dros y deuddeg mis nesaf? OAQ(5)0696(FM)
14. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllido addysg uwch yng Nghymru? OAQ(5)0704(FM)W
15. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ad-drefnu'r strategaeth economaidd yng Nghymru i sicrhau nad yw ardaloedd gwledig ar eu colled o ganlyniad i'r ffocws ar Fargeinion Dinesig? OAQ(5)0701(FM)