R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Lee Waters (Llanelli): Pryd y caiff pob plentyn yng Nghymru ei addysgu i godio? OAQ(5)0577(FM)
2. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion y trosolwg sydd gan Lywodraeth Cymru dros ddyledion sy'n ddyledus i awdurdodau lleol gan drydydd partïon? OAQ(5)0582(FM)
3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw asesiad y Prif Weinidog o gyflwr presennol negodiadau â'r UE? OAQ(5)0589(FM)
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canolfannau siopa ardal mewn dinasoedd? OAQ(5)0586(FM)
5. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd meddwl pobl yng Nghymru? OAQ(5)0579(FM)
6. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â Phrif Weinidogion llywodraethau datganoledig eraill y Deyrnas Unedig i drafod eu perthynas â'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0580(FM)W
7. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch disgyblion a myfyrwyr ar deithiau maes dramor? OAQ(5)0585(FM)
8. Michelle Brown (Gogledd Cymru):Ar ôl gweithredu Deddf Cymru 2017, pa bwerau eraill ddylai gael eu datganoli i Gymru? OAQ(5)0590(FM)
9. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo tanwydd amgen yng Nghymru? OAQ(5)0578(FM)
10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd o ran darparu morlun llanw Bae Abertawe? OAQ(5)0587(FM) TYNNWYD YN ÔL
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau yng ngorllewin Cymru? OAQ(5)0576(FM)
12. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd? OAQ(5)0584(FM)
13. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod tirlun unigryw Cymru? OAQ(5)0583(FM)
14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0588(FM)
15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd yng Nghymru? OAQ(5)0581(FM)