R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau bach yng ngorllewin Cymru? OAQ(5)0511(FM)
2. Jeremy Miles (Castell-nedd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chysgu allan yng Nghymru? OAQ(5)0518(FM)
3. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu gwell swyddi yn nes at adref? OAQ(5)0521(FM)
4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sefydlu confensiwn cyfansoddiadol? OAQ(5)0517(FM)
5. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ(5)0515(FM)
6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i gyflogaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0513(FM)
7. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo arferion cyflogaeth da ar gyfer gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0523(FM)
8. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl i barhau'n aelodau gweithgar o'u cymunedau? OAQ(5)0520(FM)
9. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella economi cymoedd Gorllewin De Cymru? OAQ(5)0514(FM)
10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyfywedd y diwydiant amaeth yng Nghymru? OAQ(5)0519(FM)W
11. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd):Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gwrdd â'r Taoiseach i drafod y berthynas gyda Gweriniaeth Iwerddon yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0516(FM)W
12. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod rhagor o fenywod yn cael swyddi'n ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg? OAQ(5)0522(FM)
13. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am daliadau uniongyrchol i ffermwyr? OAQ(5)0524(FM)W
14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella seilwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0521(FM)
15. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog egluro ei sylwadau blaenorol ei fod yn gweld yr Alban fel model cyfansoddiadol i Gymru ei ddilyn? OAQ(5)0524(FM)