R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0493(FM)
2. David Rowlands (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella mynediad i Faes Awyr Caerdydd? OAQ(5)0494(FM)
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i leihau'r rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor cyfnewidiol? OAQ(5)0481(FM)
4. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y seilwaith cyfathrebu digidol yng Nghymru? OAQ(5)0488(FM)
5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu'r broses o recriwtio meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0484(FM)
6. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am arferion bydwreigiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0483(FM)
7. Michelle Brown (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gorfodi a gymerwyd o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014? OAQ(5)0487(FM)
8. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal ynghylch effaith diwygio lles ar gefnogi anghenion tai yng Nghymru? OAQ(5)0492(FM)
9. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau endometriosis yng Nghymru? OAQ(5)0495(FM)
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fewnfuddsoddi yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0489(FM)
11. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â chymdeithasau tai er mwyn darparu mwy o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru? OAQ(5)0491(FM)
12. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cais Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021? OAQ(5)0486(FM)
13. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod pobl sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yng Nghymru yn gallu parhau i elwa ar dechnoleg gynorthwyol ac offer cynorthwyol? OAQ(5)0485(FM)
14. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0482(FM) - TYNNWYD YN ÔL
15. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am signal ffonau symudol ym Môn? OAQ(5)0490(FM)W