R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am werth allforion tramor i economi Cymru? OAQ(5)0280(FM)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun Rhentu Doeth Cymru? OAQ(5)0273(FM)
3. Hefin David (Caerffili):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu 'Cwricwlwm i Gymru - cwricwlwm am oes'? OAQ(5)0286(FM)
4. Huw Irranca–Davies (Ogwr):A yw'r Prif Weinidog wedi ystyried potensial y cynnig o ran canolbwynt trafnidiaeth Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o gyflwyno Metro De Cymru yn raddol? OAQ(5)0276(FM)
5. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau ag awdurdodau lleol ynghylch ailbrisio ardrethi busnes? OAQ(5)0277(FM)
6. Rhianon Passmore (Islwyn):Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella nifer y bobl sy'n goroesi canser? OAQ(5)0278(FM)
7. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru):Pryd y gwnaeth y Prif Weinidog ei alwad gyntaf am ddileu tollau ar bontydd Hafren? OAQ(5)0282(FM)
8. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i roi i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru gael swyddogaeth banc seilwaith? OAQ(5)0279(FM)
9. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer twf economaidd yng nghymoedd y de? OAQ(5)0289(FM)
10. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brinder meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0288(FM)W
11. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i ddyfarniad yr Uchel Lys yn erbyn Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau annigonol i fynd i'r afael â lefelau uchel o lygredd aer? OAQ(5)0283(FM)
12. Gareth Bennett (Canol De Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella dibynadwyedd gwasanaethau rheilffordd yng nghymoedd y de? OAQ(5)0284(FM)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer gorllewin Cymru yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ(5)0271(FM)
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru? OAQ(5)0272(FM)
15. Sian Gwenllian (Arfon): Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud er mwyn newid y canfyddiad fod Llywodraeth Cymru ddim ond yn berthnasol i Gaerdydd a de Cymru? OAQ(5)0285(FM)W