R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Vikki Howells (Cwm Cynon):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl y mae clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn effeithio arnynt? OAQ(5)0263(FM)
2. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch croesawu Darpar-Arlywydd Unol Daleithiau America i Gymru? OAQ(5)0266(FM)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd ei strategaethau i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru? OAQ(5)0259(FM)
4. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn archwilio unrhyw fanteision posibl i Gymru pe bai Cymru'n cyflwyno cais i gynnal Expo'r Byd 2027/28 ai peidio? OAQ(5)0264(FM)
5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at driniaethau'r GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0256(FM)
6. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud ynghylch y galwad am ymchwiliad annibynnol i drais a hunan-laddiad mewn carchardai? OAQ(5)0260(FM)
7. Lynne Neagle (Torfaen):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yng Nghymru? OAQ(5)0262(FM)
8. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gau'r bwlch cyflog rhwng menywod a dynion yng Nghymru? OAQ(5)0270(FM)
9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer yr Wythnos Ewropeaidd Lleihau Gwastraff? OAQ(5)0268(FM)
10. Hefin David (Caerffili):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad i gleifion o Gaerffili i'r ganolfan gofal arbenigol a chritigol arfaethedig? OAQ(5)0261(FM)
11. David Melding (Canol De Cymru):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon ynghylch cysylltiadau masnach a thrafnidiaeth ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0255(FM)
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu Rhentu Doeth Cymru? OAQ(5)0265(FM)
13. Hannah Blythyn (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal llwyddiannau Cymru ym maes chwaraeon? OAQ(5)0267(FM)
14. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella addysg ariannol mewn ysgolion? OAQ(5)0269(FM)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro? OAQ(5)0254(FM)