R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddigwyddiadau mawr yng Nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0228(FM)
2. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd yn ne Cymru? OAQ(5)0225(FM)
3. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o reolau lobïo sy'n gymwys yn llywodraethau eraill y DU? OAQ(5)0238(FM)
4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(5)0231(FM)
5. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwerau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoleiddio tân gwyllt? OAQ(5)0237(FM)
6. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sicrhau bod dyddiaduron Gweinidogion ar gael i'w craffu gan y cyhoedd? OAQ(5)0235(FM)
7. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0232(FM)
8. Michelle Brown (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(5)00230(FM)
9. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch asesiadau effaith ieithyddol ym maes cynllunio? OAQ(5)0226(FM)W
10. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Beth oedd canlyniad trafodaethau yn ystod cyfarfod diweddar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion? OAQ(5)0234(FM)W
11. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yn Arfon? OAQ(5)0227(FM)W TYNNWYD YN ÔL
12. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru? OAQ(5)0233(FM)
13. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddar â Llywodraeth y DU ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0229(FM)
14. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y bwriad i ailagor y llinell reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin? OAQ(5)0236(FM)