R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Vikki Howells (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau canfod canser? OAQ(5)0064(FM)
2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr arolwg diweddaraf o staff Cyfoeth Naturiol Cymru? OAQ(5)0059(FM)
3. Lynne Neagle (Torfaen):Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau gofal ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru? OAQ(5)0072(FM)
4. Rhianon Passmore (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau gwell cysylltiad i deithwyr rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ(5)0066(FM)
5. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli trethi? OAQ(5)0063(FM)
6. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfraddau cyflogaeth diweddaraf yng Nghymru o'u cymharu â gweddill y DU? OAQ(5)0067(FM)
7. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diogelwch a roddir i weithwyr Cymru o ganlyniad i'n haelodaeth o'r DU? OAQ(5)0070(FM)
8. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa bryd bydd y Prif Weinidog yn cwrdd â Phrif Weinidogion gwledydd datganoledig eraill y DU? OAQ(5)0069(FM)W
9. Nathan Gill (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bŵer gwynt yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0068(FM)
10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect arfaethedig Metro De Cymru? OAQ(5)0062(FM)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi Sir Benfro? OAQ(5)0060(FM)
12. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer llywyddiaeth y DU o'r UE y flwyddyn nesaf? OAQ(5)0071(FM)
13. David Melding (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal fel blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0058(FM) TYNNWYD YN ÔL
14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economi Canol De Cymru? OAQ(5)0061(FM)
15. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyflymder band eang yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0065(FM)