Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Gorffennaf 2016
i'w hateb ar 12 Gorffennaf 2016

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Russell George (Sir Drefaldwyn):Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0111(FM)

 

2. Neil McEvoy (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar fynediad at Weinidogion Cymru? OAQ(5)0118(FM)

 

3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygu pêl-droed yng Nghymru? OAQ(5)0102(FM)

 

4. Vikki Howells (Cwm Cynon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o gynyddu cyfleoedd i gymryd rhan mewn addysg oedolion yng Nghymru? OAQ(5)0113(FM)

 

5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ(5)0107(FM)

 

6. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ar recriwtio meddygon teulu ym Mhowys? OAQ(5)0114(FM)

 

7. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol y Cynllun Datblygu Gwledig?  OAQ(5)0117(FM)W

 

8. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r seilwaith yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0108(FM)

 

9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyfraddau casglu'r dreth gyngor yng Nghymru? OAQ(5)0110(FM)

 

10. Huw Irranca–Davies (Ogwr):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y mesurau i feithrin sgiliau yn y diwydiannau digidol yng Nghymru? OAQ(5)0106(FM)

 

11. Jeremy Miles (Castell-nedd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu manteision morlyn llanw Bae Abertawe i  Gastell-nedd? OAQ(5)0115(FM)

 

12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch gweithredu diwydiannol staff y Trinity Mirror yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0109(FM)

 

13. Nathan Gill (Gogledd Cymru):Pa deithiau masnach sydd wedi'u cynllunio gan y gall Cymru, bellach, osod y seiliau ar gyfer masnachu â'r holl fyd? OAQ(5)0103(FM)

 

14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynglŷn ag adroddiad Syr John Chilcot i ryfel Irac?  OAQ(5)0119(FM)W

 

15. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddiogelwch ar y ffyrdd? OAQ(5)0112(FM)