R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir
rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safonau addysg ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2786(FM)
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl yn ne Cymru? OAQ(4)2778(FM)
3. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu perfformiad ei uned cyflenwi dros dymor y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)2777(FM)
4. Sandy Mewies (Delyn):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau fel elfen allweddol o'r broses o fynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc? OAQ(4)2784(FM)
5. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd lleoedd ysgol yng Nghaerdydd? OAQ(4)2785(FM)
6. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog grwpiau cymunedol i gymryd rhan yn y broses o restru adeiladau o arwyddocâd hanesyddol a lleol? OAQ(4)2787(FM)
7. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â cholli apwyntiadau yn y GIG yng Nghymru? OAQ(4)2774(FM)
8. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddenu swyddi gweithgynhyrchu tra medrus i Gymru? OAQ(4)2770(FM)
9. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo'r iaith Gymraeg? OAQ(4)2783(FM)W
10. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein? OAQ(4)2779(FM)
11. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth yw etifeddiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi yng Nghymru? OAQ(4)2776(FM)
12. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl hŷn yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)2782(FM)
13. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i feithrin entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru? OAQ(4)2773(FM)
14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau nifer y cwmnïau gwasanaethau ariannol sydd wedi adleoli i ardaloedd menter Caerdydd? OAQ(4)2771(FM)
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru ar golli swyddi yn Tata Steel? OAQ(4)2768(FM)