Pobl y Senedd

Siân Gwenllian AS

Siân Gwenllian AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Arfon

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o a) faint o daliadau morgais pobl yn Arfon ac ar draws Cymru sydd yn aros o fewn economi Cymru; b) faint sy'n gadael economi Cymru; ac c) effai...

Wedi'i gyflwyno ar 13/05/2024

Pa asesiad diweddar mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ynghylch faint o gyfraniadau pensiwn gweithwyr Cymru gaiff eu talu mewn i gronfeydd pensiwn sy'n cadw'r budd yng Nghymru ac sy'n buddsod...

Wedi'i gyflwyno ar 10/05/2024

Pa gamau mae uned seilwaith ieithyddol y Llywodraeth yn eu cymryd i hwyluso cyflwyno cyfleuster fyddai'n galluogi newid iaith yr holl ryngwynebau a meddalwedd ar gyfrifiadur mewn gweithle...

Wedi'i gyflwyno ar 10/05/2024

Pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i roi i'r posibilirwydd o ragosod rhyngwynebau technoleg gwybodaeth i'r Gymraeg mewn gweithleodd Cymraeg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 10/05/2024

Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o hyd a lled defnydd rhyngwynebau technoleg gwybodaeth Cymraeg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 10/05/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am argaeledd gwasanaethau'r cynllun pensiwn athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg?

Wedi'i gyflwyno ar 10/05/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Siân Gwenllian AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Etholwyd Siân i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016 i gynrychioli etholaeth Arfon dros Blaid Cymru. Cafodd ei hail-hethol i Senedd Cymru yn 2021 gan ddyblu ei mwyayfrif a gyda 63.3% o’r bleidlais – y ganran uchaf o blith Aelodau Senedd Cymru.

Hanes personol

Addysgwyd Siân yn Ysgol Friars, Bangor ac ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Ar ôl colli ei gŵr bun magu ei 4 plentyn ar ei phen ei hun. Mae wedi bod yn ymgyrchydd brwd dros gydraddoldeb i ferched a thros yr iaith Gymraeg ers dros 45 mlynedd. Mae ei diddordebau y tu allan i wleidyddiaeth yn cynnwys theatr, celf, y sîn gerddoriaeth Gymraeg, pêl-droed a rygbi.

Cefndir proffesiynol

Bu Siân yn gweithio fel newyddiadurwr gyda'r BBC, HTV a chwmni Golwg. Bu’n gweithio hefyd ym maes cysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys fel swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd.

Hanes gwleidyddol

Bu Siân yn weithgar gyda nifer o fudiadau cymunedol, fel llywodraethwr ysgol ac fel cynghorydd cymuned. Rhwng 2008 a 2016 bu'n gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, yn cynrychioli’r Felinheli lle cafodd ei magu. Rhwng 2010 a 2012 hi oedd yn gyfrifol am bortffolio cyllid yr awdurdod a rhwng 2012 a 2014 roedd hi'n aelod o'r Cabinet dros addysg, plant a phobl ifanc ac yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor. Yn 2014 penodwyd Siân yn bencampwr busnesau bach Gwynedd, yn gyfrifol am hyrwyddo'r sector hon o'r economi yn y sir. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Etholaeth Arfon o Blaid Cymru.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Siân Gwenllian AS