Pobl y Senedd

Heledd Fychan AS

Heledd Fychan AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Yn ei datganiad llafar ar 14 Mai 2024, pa ddiwygiadau yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio atynt pan ddywedodd fod y Llywodraeth wedi cychwyn ar becyn sylweddol o ddiwygiadau i dra...

Wedi'i gyflwyno ar 14/05/2024

Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu ymateb ffurfiol i adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru ar iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 14/05/2024

Sut y bydd iechyd meddwl a llesiant yn llwyfan y bydd y system addysg yn cael ei hadeiladu arno, fel y cyfeirir ato gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei datganiad ar 14 Mai 2024 ar gyflawni...

Wedi'i gyflwyno ar 14/05/2024

Pa wersi y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u dysgu o Gwricwlwm Rhagoriaeth yr Alban, a sut y bydd hyn yn cyfrannu at y Cwricwlwm i Gymru?

Wedi'i gyflwyno ar 14/05/2024

Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwella ei dealltwriaeth o'r bwlch cyrhaeddiad a chanfod lle y gellir targedu ymyriadau orau i gael yr effaith fwyaf?

Wedi'i gyflwyno ar 14/05/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut y mae ei blaenoriaethau ar gyrhaeddiad yn wahanol i'r hyn a amlinellwyd gan Weinidog blaenorol y Gymraeg ac Addysg yn ei ddatganiad ar 23 Io...

Wedi'i gyflwyno ar 14/05/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Heledd Fychan AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Prif ddiddordebau Heledd yw diwylliant, hanes a threftadaeth; sicrhau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a diddymu tlodi plant; a sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Hanes personol

Magwyd Heledd yn Ynys Mon, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, gan ddod yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor. Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd gyda ei gwr, a’u mab.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol, roedd Heledd wedi bod yn gweithio ers deuddeg mlynedd i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu yn aelod o Fwrdd y Museums Association gan gadeirio eu Pwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’u Pwyllgor Cenhedloedd a’u cynrychioli fel siaradwraig wadd mewn nifer o gynhadleddau rhyngwladol. Cyn hynny, bu Heledd yn gweithio i grwp Plaid Cymru yn San Steffan.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd Heledd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Ers cael ei hethol, mae wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd blaenllaw yn lleol gan gynnwys galw am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn erbyn newidiadau i ysgolion yn ardal Pontypridd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Heledd Fychan AS