Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/04/2024 - Y Pwyllgor Biliau Diwygio
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau na dirprwyon. Croesawodd y
Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol yn unol â Rheol Sefydlog 17.49. Datganodd Sarah
Murphy AS, Heledd Fychan AS a Jane Dodds AS eu bod yn aelodau o Gawcws Menywod
y Senedd, a fyddai’n rhoi tystiolaeth o dan eitem 5. |
|
(09.15) |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr at Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 22 Mawrth 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr oddi wrth Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 12 Ebrill 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at y Llywydd mewn perthynas â’r Aelodau sy’n gyfrifol am Filiau Llywodraeth Cymru – 5 Ebrill 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch Adroddiad Cyfnod 1 ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) – 17 Ebrill 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr oddi wrth y Llywydd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 15 Ebrill 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(09.15-10.15) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda Diverse 5050 Victoria Vasey,
Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru) Jessica Blair,
Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru Nkechi
Allen-Dawson, Cyngor Hiliaeth Cymru Selima Bahadur,
Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru Dogfennau
ategol Papur 1 Tystiolaeth
ysgrifenedig: 5050 Amrywiol [Saesneg yn unig] Papur 2
Tystiolaeth ysgrifenedig: Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru [Saesneg yn unig] Briff Ymchwil Papur 3 nodyn
cyngor cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Diverse 5050. |
|
(10.25-11.20) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Rhwydwaith Hawliau Menywod Catherine
Larkman, Cydlynydd Rhwydwaith Hawliau Menywod Cymru Claire Loneragan,
Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Hawliau Menywod Katharine Owen, Rhwydwaith
Hawliau Menywod Dogfennau
ategol Papur 4 Tystiolaeth
ysgrifenedig: Rhwydwaith Hawliau Menywod [Saesneg yn unig] Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Rhwydwaith Hawliau
Menywod. |
|
(11.30-12.15) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda Chawcws Menywod y Senedd Joyce Watson AS, Cadeirydd
Cawcws Menywod y Senedd Janet
Finch-Saunders AS Sioned Williams
AS Rhianon Passmore
AS Dogfennau
ategol Papur 5
Tystiolaeth ysgrifenedig: Joyce Watson AS, Cadeirydd Cawcws Menywod y Senedd
[Saesneg yn unig] Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gawcws Merched y
Senedd. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, rhannodd Rhianon Passmore
AS gopi caled o’i hadroddiad ar Fforwm Byd-eang Reykjavik – Arweinwyr Merched
2023. Cytunodd Rhianon Passmore AS hefyd i ddarparu gwybodaeth
ychwanegol am arolwg Arweinwyr Gwleidyddol Merched a 6ed pwynt data Ymchwil
Fynegai Byd-eang Verien, a chyhoeddwyd cofnodion cynhadledd Seneddwragedd y
Gymanwlad, Rhanbarth yr Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir. |
|
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac ar gyfer eitem 1 yn y cyfarfod ar 1 Mai 2024 Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(12.15-12.30) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |