Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/04/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30 - 13.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Cofnodion: Cafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol
Sefydlog 17.22, a chytunodd y Pwyllgor ar yr enwebiad. Gwnaeth y Pwyllgor ethol
Alun Davies AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y
cyfarfod hwn. |
|
(13.35) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Huw Irranca-Davies ac Adam
Price. Croesawodd y Pwyllgor Carolyn Thomas, a oedd yn dirprwyo ar ran Huw
Irranca-Davies. |
|
(13.35 – 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(6)466 – Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth
Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd
a nodwyd. |
||
SL(6)470 – Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth
Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd
a nodwyd. |
||
SL(6)473 – Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
(13.40 – 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd eisoes |
|
SL(6)461 – Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.45 - 13.50) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Grwpiau Rhyngweinidogol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd mewn perthynas â
chyfarfod y canlynol – Cyllid: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol etc.) 2024 Rheoliadau 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) (Rhif 2) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
(13.50 – 14.00) |
Papurau i'w nodi |
|
Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Datganoli plismona Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a’r
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip. |
||
Gohebiaeth â’r Pwyllgor Busnes: Adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
â’r Pwyllgor Busnes. |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. |
||
Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol, at Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi: Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Gweinidog
Cysylltiadau Rhynglywodraethol, at Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-2025 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Pwyllgor Cyllid, a chytunodd yr Aelodau i drafod ymateb drafft mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
||
Gohebiaeth gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gadeirydd Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ’r Arglwyddi: Confensiwn UNESCO ar Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol at Gadeirydd Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ’r Arglwyddi. |
||
Datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diwygiadau i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU i gefnogi sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. |
||
Gohebiaeth yn ymwneud â chanslo pumed cyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Senedd yr Alban, a’r
Pwyllgor hwn, at Gyd-Gadeiryddion Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE. |
||
Gohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Rhentwyr (Diwygio) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet. |
||
(14.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.00 - 14.10) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd i drafod
adroddiad drafft yn ystod ei gyfarfod nesaf. |
|
(14.10 - 14.20) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd i drafod
adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(14.20 - 14.30) |
Ymchwiliad gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi: Llywodraethu'r Undeb: Ymgynghori, Cydweithio a Chydsyniad Deddfwriaethol – Trafod y cyflwyniad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r eitem hon tan ei gyfarfod
nesaf. |
|
(14.30 - 14.40) |
Blaenragalen waith Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y broses o flaengynllunio gwaith, a
chytunodd yr Aelodau i drafod Blaenraglen Waith mewn cyfarfod yn y dyfodol. |