Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 201
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/04/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.19 Gofynnwyd y 7 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a
Chyfiawnder Cymdeithasol Heledd
Fychan (Canol De Cymru): Pa asesiad mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei
wneud o’r posibilrwydd bydd Amgueddfa Cymru yn cau Amgueddfa Genedlaethol
Caerdydd oherwydd dirywiad yr adeilad? I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Altaf
Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad
am ganfyddiadau'r crwner ym marwolaeth Dr Kim Harrison a amlygodd fethiannau
difrifol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.12 Atebwyd
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Heledd Fychan (Canol De
Cymru): Pa asesiad mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o’r
posibilrwydd bydd Amgueddfa Cymru yn cau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
oherwydd dirywiad yr adeilad? Atebwyd
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ganfyddiadau'r crwner ym
marwolaeth Dr Kim Harrison a amlygodd fethiannau difrifol ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Bae Abertawe? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.32 Gwnaeth Alun Davies
ddatganiad am - Jess Fishlock yn ennill 150 o gapiau dros Gymru. Gwnaeth Sian
Gwenllian ddatganiad am - Teyrnged i Zonia Bowen, sylfaenydd Merched y Wawr. Gwnaeth Llyr Gruffydd
ddatganiad am - CPD Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad am yr ail flwyddyn yn olynol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.38 NNDM8542 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y
Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur Cymru) yn
aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Lesley Griffiths (Llafur Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i benodi Aelod i Gomisiwn y Senedd Dechreuodd yr eitem am 15.38 NNDM8543 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Hefin David (Llafur Cymru) yn aelod o Gomisiwn y
Senedd. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) NDM8536 Sam
Rowlands (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr
Agored Breswyl (Cymru). Gosodwyd y Bil Addysg Awyr
Agored Breswyl (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Senedd ar 24 Tachwedd 2023. Dogfennau ategol Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Ymateb
gan Sam Rowlands AS i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Saesneg yn
unig) Ymateb
gan Sam Rowlands AS i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Ymateb
gan Sam Rowlands AS i’r Pwyllgor Cyllid (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.38 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8536 Sam Rowlands (Gogledd
Cymru) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru). Gosodwyd
y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd
ar 24 Tachwedd 2023. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Ynni niwclear ac economi Cymru NDM8535 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig, ‘Ynni niwclear ac economi Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2024. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ebrill
2024. At hynny, cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth y DU ar 10 Ebrill 2024. (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.40 NDM8535 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ‘Ynni niwclear ac economi
Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2024. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10
Ebrill 2024. At hynny, cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth y DU ar 10 Ebrill 2024. (Saesneg yn unig) Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru NDM8537 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi ymddiswyddiad Pennaeth Ymchwiliadau
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 2. Yn mynegi ei phryder bod didueddrwydd
gwleidyddol Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cael ei
beryglu. 3. Yn nodi: a) bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
wedi penodi uwch fargyfreithiwr i ymchwilio i honiadau o ddidueddrwydd
gwleidyddol; a b) mai'r person a benodir yw James Goudie KC. 4. Yn nodi nad yw'n credu bod y
penodiad yn briodol o ystyried bod James Goudie KC yn gyn-ymgeisydd seneddol
Llafur, yn gyn-gadeirydd ar Gymdeithas Cyfreithwyr Llafur, yn gyn-lefarydd
Llafur dros Faterion Cyfreithiol yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac yn gyn-arweinydd
Cyngor Brent dros y Blaid Lafur. 5. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn
cyfarwyddo'r Pwyllgor Cyllid i adolygu ar frys weithrediadau, prosesau ac
ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sicrhau: a) bod didueddrwydd a thegwch yn bresennol drwy
gydol cyflogaeth y cyn Bennaeth Ymchwiliadau; a b) y gall y Senedd fod yn hyderus bod y swyddfa
yn gallu cynnal ymchwiliadau yn y dyfodol mewn ffordd ddiduedd a theg. 6. Yn galw ar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru i ddatgelu telerau ymadawiad y cyn Bennaeth Ymchwiliadau, er budd craffu
cyhoeddus. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) ymddiswyddiad Pennaeth Ymchwiliadau Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; b) bod yr Ombwdsmon wedi penodi uwch
fargyfreithiwr i ymchwilio i honiadau; c) fel ‘awdurdod rhestredig’ dan oruchwyliaeth
yr Ombwdsmon, na fyddai’n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylw ar yr
ymchwiliad; a d)
bod y Senedd yn disgwyl i’r Ombwdsmon adrodd yn ôl i’r Senedd maes o law ynglŷn
â chanlyniad yr ymchwiliad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 NDM8537 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi ymddiswyddiad
Pennaeth Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 2. Yn mynegi ei phryder
bod didueddrwydd gwleidyddol Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
wedi cael ei beryglu. 3. Yn nodi: a) bod Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penodi uwch fargyfreithiwr i ymchwilio i
honiadau o ddidueddrwydd gwleidyddol; a b) mai'r person a
benodir yw James Goudie KC. 4. Yn nodi nad yw'n
credu bod y penodiad yn briodol o ystyried bod James Goudie KC yn
gyn-ymgeisydd seneddol Llafur, yn gyn-gadeirydd ar Gymdeithas Cyfreithwyr
Llafur, yn gyn-lefarydd Llafur dros Faterion Cyfreithiol yn Nhŷ'r
Arglwyddi, ac yn gyn-arweinydd Cyngor Brent dros y Blaid Lafur. 5. Yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Cyllid i adolygu ar frys weithrediadau,
prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sicrhau: a) bod didueddrwydd a
thegwch yn bresennol drwy gydol cyflogaeth y cyn Bennaeth Ymchwiliadau; a b) y gall y Senedd fod
yn hyderus bod y swyddfa yn gallu cynnal ymchwiliadau yn y dyfodol mewn
ffordd ddiduedd a theg. 6. Yn galw ar Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddatgelu telerau ymadawiad y cyn Bennaeth
Ymchwiliadau, er budd craffu cyhoeddus. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Trafnidiaeth NDM8538 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu nad yw polisïau trafnidiaeth
Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i'r diben. 2. Yn gresynu'r rhaniad rhwng trafnidiaeth yng
ngogledd a de Cymru, gyda £50 miliwn wedi'i ddyrannu i Fetro Gogledd Cymru, a
thros £1 biliwn i Fetro De Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: a) i gynnal adolygiad ar frys o'r profion
adeiladu ffyrdd presennol gyda'r bwriad o weithredu'r holl gynlluniau a gafodd
eu dileu yn y gorffennol a fydd yn hybu twf economaidd neu'n gwella
diogelwch ar y ffyrdd; b) i wrthdroi ar frys Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig
(Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 a mabwysiadu dull wedi'i dargedu ar gyfer
terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru; ac c) i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus i
wneud bysiau a threnau'n fwy cystadleuol â theithio mewn car. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu: a) nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth
Cymru ar gyfer Cymru yn addas i’r diben; b) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de
Cymru yn ganlyniad gofidus i’r ffaith bod penderfyniadau dros drafnidiaeth yn
cael eu gwneud a'u rheoli gan bobl y tu allan i Gymru; c) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de
Cymru yn deillio o fethiannau hanesyddol a chyfredol i fuddsoddi mewn teithiau
o fewn Cymru; a d) bydd datrys materion o fewn rhwydwaith
trafnidiaeth Cymru ond yn bosibl drwy ddatganoli'r holl bwerau dros
drafnidiaeth i Gymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ailystyried ei phenderfyniad i beidio â
lansio her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddynodi HS2 yn
brosiect Cymru a Lloegr; b) gweithredu ar frys i weithredu'r adolygiad
parhaus o effaith y terfynau cyflymder newydd, fel y cytunwyd yn flaenorol gan
bleidlais y Senedd o blaid NDM8347 fel y’i diwygiwyd, ar 13 Medi 2023; c) blaenoriaethu cyllid teg i fysiau sy'n gosod
cyllid bws ar yr un sail teg â chyllid rheilffyrdd; a d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli'r
holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Gwelliant 2 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
wrando ynghylch gwahanol faterion, gan gynnwys trafnidiaeth a chysylltedd. 2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru sy’n
cydnabod: a) gwerth seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan
gynnwys ffyrdd, o ran ein heconomi a’n cymdeithas; a b) y gall Llywodraeth Cymru wella’r ffordd y
mae’n dylunio ac yn adeiladu seilwaith ffyrdd newydd, a chynnal yn well
rwydwaith ffyrdd presennol Cymru. 3.
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fireinio’r
gwaith o weithredu terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru, gan gynnwys ystyried y
canllawiau ar ddosbarthiad ffyrdd, newid terfynau cyflymder ar rai ffyrdd a
pharhau i drafod â chymunedau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.52 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8538 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu nad yw polisïau
trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn addas i'r diben. 2. Yn gresynu'r rhaniad rhwng
trafnidiaeth yng ngogledd a de Cymru, gyda £50 miliwn wedi'i ddyrannu i Fetro
Gogledd Cymru, a thros £1 biliwn i Fetro De Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: a) i gynnal adolygiad ar frys
o'r profion adeiladu ffyrdd presennol gyda'r bwriad o weithredu'r holl
gynlluniau a gafodd eu dileu yn y gorffennol a fydd yn hybu twf economaidd
neu'n gwella diogelwch ar y ffyrdd; b) i wrthdroi ar frys Orchymyn
Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 a mabwysiadu dull
wedi'i dargedu ar gyfer terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru; ac c) i fuddsoddi mewn
trafnidiaeth gyhoeddus i wneud bysiau a threnau'n fwy cystadleuol â theithio
mewn car.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu: a) nad yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar
gyfer Cymru yn addas i’r diben; b) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn
ganlyniad gofidus i’r ffaith bod penderfyniadau dros drafnidiaeth yn cael eu
gwneud a'u rheoli gan bobl y tu allan i Gymru; c) bod diffyg cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru yn
deillio o fethiannau hanesyddol a chyfredol i fuddsoddi mewn teithiau o fewn
Cymru; a d) bydd datrys materion o fewn rhwydwaith trafnidiaeth
Cymru ond yn bosibl drwy ddatganoli'r holl bwerau dros drafnidiaeth i Gymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ailystyried ei phenderfyniad i beidio â lansio her
gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddynodi HS2 yn brosiect
Cymru a Lloegr; b) gweithredu ar frys i weithredu'r adolygiad parhaus o
effaith y terfynau cyflymder newydd, fel y cytunwyd yn flaenorol gan bleidlais
y Senedd o blaid NDM8347 fel y’i diwygiwyd, ar 13 Medi 2023; c) blaenoriaethu cyllid teg i fysiau sy'n gosod cyllid
bws ar yr un sail teg â chyllid rheilffyrdd; a d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli'r holl
bwerau dros drafnidiaeth i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando
ynghylch gwahanol faterion, gan gynnwys trafnidiaeth a chysylltedd. 2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod: a) gwerth seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys
ffyrdd, o ran ein heconomi a’n cymdeithas; a b) y gall Llywodraeth Cymru wella’r ffordd y mae’n
dylunio ac yn adeiladu seilwaith ffyrdd newydd, a chynnal yn well rwydwaith
ffyrdd presennol Cymru. 3. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod
yr angen i fireinio’r gwaith o weithredu terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru,
gan gynnwys ystyried y canllawiau ar ddosbarthiad ffyrdd, newid terfynau
cyflymder ar rai ffyrdd a pharhau i drafod â chymunedau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8538 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando
ynghylch gwahanol faterion, gan gynnwys trafnidiaeth a chysylltedd. 2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod: a) gwerth seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys
ffyrdd, o ran ein heconomi a’n cymdeithas; a b) y gall Llywodraeth Cymru wella’r ffordd y mae’n
dylunio ac yn adeiladu seilwaith ffyrdd newydd, a chynnal yn well rwydwaith
ffyrdd presennol Cymru. 3. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod
yr angen i fireinio’r gwaith o weithredu terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru,
gan gynnwys ystyried y canllawiau ar ddosbarthiad ffyrdd, newid terfynau
cyflymder ar rai ffyrdd a pharhau i drafod â chymunedau.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.24 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8534 James
Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.28 NDM8534 James
Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig |