GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Clefydau Egsotig (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 7 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

20 Tachwedd 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

19 Tachwedd 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

26 Tachwedd 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 8

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad yn cytuno â’r crynodeb o’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn, ac â’u hamcan, fel y'u nodir gan Lywodraeth Cymru yn ei Datganiad Ysgrifenedig dyddiedig 9 Tachwedd 2018.

 

Fodd bynnag, mae'r Gwasanaethau Cyfreithiol yn nodi anghysondeb yn un o'r cyfeiriadau yn y Datganiad Ysgrifenedig, ac mae am dynnu sylw’r Aelodau ato fel a ganlyn:

 

·         Mae'r Datganiad yn cyfeirio at Benderfyniad gan y Comisiwn 2003/467/EC, ond nid yw'r Rheoliadau’n ymdrin ag ef.

 

O ran pam y mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol i’r Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU gynnwys y darpariaethau datganoledig, efallai y bydd yr Aelodau am drafod yr ymresymu a gynigir yn y darnau isod sydd wedi’u dethol o’r Datganiad Ysgrifenedig:

 

"Mae rheoli clefydau egsotig yn swyddogaeth ddatganoledig. 

 

Mae'r OS hwn, sy'n dilyn y weithdrefn negyddol, yn mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE sydd wedi'i dargadw i weithredu'n effeithiol a hefyd â diffygion eraill sy'n deillio o'r ffaith bod y DU yn ymadael â'r UE, drwy fynd i'r afael â diffygion a methiannau'r gyfraith sy'n ymwneud â chlefydau hysbysadwy egsotig mewn da byw.

 

Ni fyddai cyfraith berthnasol yr UE yn gweithredu'n briodol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE heb iddi gael ei diwygio. Byddai hyn yn effeithio ar ein gallu i reoli achosion o glefydau.

 

Mae'r OS yn diwygio deddfwriaeth uniongyrchol gymwys yr UE a deddfwriaeth ddomestig. Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gydag ef, sy'n nodi effaith y diwygiad hwn i’w gweld yma. 

 

O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn pan fo gofyn inni ystyried a chywiro nifer digyffelyb o ddarnau deddfwriaeth o fewn amserlen dynn gan ddefnyddio adnoddau cyfyngedig, egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw ein bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan ar gyfer nifer mawr o offerynnau statudol. Mae hyn yn sicrhau dull cydlynol lle y bo'n bosibl, er mwyn sicrhau bod y gyfraith yn glir ar draws y DU. Gan nad oes gwahaniaeth rhwng ymagwedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi i'w gywiro, mae'n briodol mai Llywodraeth y DU sy'n gwneud yr OS y tro hwn.

Bydd y diwygiadau yn sicrhau y bydd rheolau a gweithdrefnau, mewn perthynas â rheoli clefydau egsotig, yn dal i fod yn eu lle i reoli a dileu clefydau yn gynnar, yn effeithiol ac mewn modd cydgysylltiedig."