Pobl y Senedd

Mark Reckless AS

Mark Reckless AS

Heb Grŵp

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws y berthynas rynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

Wedi'i gyflwyno ar 11/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiddymu'n raddol band cyfradd sero y dreth trafodion tir ar drafodion eiddo preswyl hyd at £250,000?

Wedi'i gyflwyno ar 10/03/2021

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn credu bod datganoli wedi dal y ddarpariaeth o ofal iechyd a'i chanlyniadau yn ôl yng Nghymru. Yn galw am ddull integredig DU-gyfan o ymdri...

I'w drafod ar 05/03/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch yr effaith y mae'r dreth a delir wrth brynu eiddo preswyl yn ei chael ar stoc tai Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant y model buddsoddi cydfuddiannol?

Wedi'i gyflwyno ar 03/02/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rôl y gall ychwanegion fitamin D ei chwarae o ran lliniaru COVID-19 ac wrth feithrin iechyd da yn fwy cyffredinol?

Wedi'i gyflwyno ar 20/01/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mark Reckless AS

Bywgraffiad

Roedd Mark Reckless yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Mark Reckless wedi ymgyrchu ar hyd ei fywyd fel oedolyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ym mis Hydref 2012, trechodd Marc lywodraeth glymblaid y DU am y tro cyntaf mewn pleidlais seneddol, gyda chynnig yn gofyn am ostyngiad mewn termau real yng nghyllideb yr UE. Cyflawnwyd hyn, gan arbed biliynau o bunnoedd i drethdalwyr y DU, ac o fewn tri mis cytunodd y Prif Weinidog i gynnal refferendwm ar aelodaeth o'r UE.

Yn nhymor yr hydref 2014, gadawodd Mark y Blaid Geidwadol ac ymunodd ag UKIP. Ymddiswyddodd o'i sedd yn Senedd y DU i geisio cefnogaeth ei etholwyr, a chafodd ei ail-ethol mewn is-etholiad.

Hanes personol

Ganed Mark ar 6 Rhagfyr 1970, yn fab hynaf i John ac Anne Reckless, meddyg a nyrs. Bu ei dad-cu, Henry McDevitt, yn gwasanaethu fel aelod Fianna Fail yn Senedd Iwerddon, gan gynrychioli Dwyrain Donegal rhwng 1938 ac 1943.

Mae gan Mark radd mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg o Brifysgol Rhydychen, gradd mewn Busnes o Brifysgol Columbia, a gradd yn y Gyfraith o Goleg y Gyfraith. Mae'n briod â Catriona ac mae ganddo ddau fab ifanc.

Cefndir proffesiynol

Cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth, bu Mark yn gweithio fel economegydd y DU ar gyfer y banc buddsoddi S.G. Warburg (sydd bellach yn rhan o UBS). Cafodd ei gynnwys yn y tri uchaf gan gleientiaid yn arolygon Extel ac Institutional Investor. Yn ddiweddarach, bu Mark yn gweithio fel ymgynghorydd rheoli. Cafodd ei alw i'r Bar yn 2007. Yn 2009, enillodd gymhwyster fel cyfreithiwr gyda Herbert Smith LLP, ar ôl treulio amser fel Cynorthwy-ydd Barnwrol i Is-lywydd y Llys Apêl.

Hanes gwleidyddol

Ar ôl sefyll ar gyfer etholaeth Medway yn 2001 a 2005, cafodd Mark ei ethol fel yr AS Ceidwadol dros Rochester a Strood yn 2010. Bu’n gwasanaethu hefyd fel cynghorydd ar gyfer Medway ac fel aelod o Awdurdod Heddlu Swydd Gaint.

Etholwyd Mark i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2016. Ym mis Ebrill 2017, gadawodd Mark UKIP ac ymuno â grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad. Ym mis Mai 2019, gadawodd Mark grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mark Reckless AS