Pobl y Senedd

Hefin David AS

Hefin David AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Caerffili

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yng Nghymru: yr heriau i athrawon a dysgwyr

I'w drafod ar 06/03/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnesau yn y dyfodol?

Wedi'i gyflwyno ar 06/03/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynllunio ar gyfer argyfyngau sifil posibl yng Nghymru yn deillio o ymosodiad seiber yn erbyn y DU gan bŵer tramor?

Wedi'i gyflwyno ar 29/02/2024

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gyflawni Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 28/02/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu gofal iechyd sylfaenol?

Wedi'i gyflwyno ar 04/01/2024

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol meddygfeydd?

Wedi'i gyflwyno ar 03/01/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Hefin David AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Fel Aelod o’r Senedd, mae diddordebau Hefin David ym maes datblygu a thwf cwmnïau bach, cyflogaeth a chyflogadwyedd, mynediad i addysg bellach ac uwch i'r rheini ag anghenion ychwanegol a datblygu cymunedau'r Cymoedd. Mae ganddo ddiddordeb mewn tai, gan gynnwys diwygio rhydd-ddaliadol/prydlesol, a diwygio'r system gynllunio. At hynny, mae ganddo ddiddordeb yn effeithiau hirdymor y Coronafeirws (COVID hir) ar unigolion. Mae gan Hefin radd BScEcon mewn Economeg a Gwleidyddiaeth a gradd MScEcon mewn Polisi Ewropeaidd, y naill a’r llall o Brifysgol Caerdydd. Mae ganddo hefyd Dystysgrif Addysg i Raddedigion o Brifysgol De Cymru, a Doethuriaeth o Brifysgol Sir Gaerloyw. Mae Hefin yn un o gymrodorion yr Higher Education Academy (FHEA) ac yn aelod cyswllt academaidd o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

Hanes personol

Cafodd Hefin ei eni a'i fagu yn etholaeth Caerffili, lle y mae'n byw hyd heddiw. Mae'n llywodraethwr dwy ysgol ac yn ymddiriedolwr Canolfan Glowyr Caerffili er y Gymuned.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei ethol i’r Senedd, roedd Hefin yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd yn dysgu Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymarfer Proffesiynol i israddedigion a graddedigion, gan ganolbwyntio ar gyflogadwyedd. O ran gwaith ymchwil, roedd Hefin yn ymddiddori mewn cyflogadwyedd a thwf mewn busnesau bach ac roedd ei ddoethuriaeth yn ystyried y penderfyniadau cynnar o ran cyflogaeth a wneir gan unigolion sy'n berchen ar fusnesau bach ac yn eu rheoli.  Mae ganddo brofiad o weithio ac addysgu yn yr Almaen, gwlad Groeg, India a Tsieina.

Hanes gwleidyddol

Cafodd Hefin ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn isetholiad ym mis Mawrth 2007 a bu’n gwasanaethu’n barhaus tan iddo roi’r gorau i’r rôl yn etholiadau llywodraeth leol 2017. Ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau rhwng 2012 a 2016, a bu'r Pwyllgor yn trafod nifer o faterion o ddiddordeb i'r cyhoedd yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys lliniaru effeithiau mwyaf difrifol y dreth ystafell wely a lleihau'r defnydd o lety gwely a brecwast i gartrefu pobl mewn argyfwng.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Hefin David AS