Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Fel Aelod o’r Senedd, mae diddordebau Hefin David ym maes datblygu a thwf cwmnïau
bach, cyflogaeth a chyflogadwyedd, mynediad i addysg bellach ac uwch i'r rheini
ag anghenion ychwanegol a datblygu cymunedau'r Cymoedd. Mae ganddo ddiddordeb
mewn tai, gan gynnwys diwygio rhydd-ddaliadol/prydlesol, a diwygio'r system
gynllunio. At hynny, mae ganddo ddiddordeb yn effeithiau hirdymor y
Coronafeirws (COVID hir) ar unigolion. Mae gan Hefin radd BScEcon mewn Economeg
a Gwleidyddiaeth a gradd MScEcon mewn Polisi Ewropeaidd, y naill a’r llall o
Brifysgol Caerdydd. Mae ganddo hefyd Dystysgrif Addysg i Raddedigion o
Brifysgol De Cymru, a Doethuriaeth o Brifysgol Sir Gaerloyw. Mae Hefin yn un o
gymrodorion yr Higher Education Academy (FHEA) ac yn aelod cyswllt academaidd
o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
Hanes personol
Cafodd Hefin ei eni a'i fagu yn etholaeth Caerffili, lle y mae'n byw hyd
heddiw. Mae'n llywodraethwr dwy ysgol ac yn ymddiriedolwr Canolfan Glowyr
Caerffili er y Gymuned.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei ethol i’r Senedd, roedd Hefin yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol
Metropolitan Caerdydd. Roedd yn dysgu Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymarfer
Proffesiynol i israddedigion a graddedigion, gan ganolbwyntio ar gyflogadwyedd.
O ran gwaith ymchwil, roedd Hefin yn ymddiddori mewn cyflogadwyedd a thwf mewn
busnesau bach ac roedd ei ddoethuriaeth yn ystyried y penderfyniadau cynnar o
ran cyflogaeth a wneir gan unigolion sy'n berchen ar fusnesau bach ac yn eu
rheoli. Mae ganddo brofiad o weithio ac
addysgu yn yr Almaen, gwlad Groeg, India a Tsieina.
Hanes gwleidyddol
Cafodd Hefin ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn isetholiad
ym mis Mawrth 2007 a bu’n gwasanaethu’n barhaus tan iddo roi’r gorau i’r rôl yn
etholiadau llywodraeth leol 2017. Ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Polisi ac
Adnoddau rhwng 2012 a 2016, a bu'r Pwyllgor yn trafod nifer o faterion o
ddiddordeb i'r cyhoedd yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys lliniaru effeithiau
mwyaf difrifol y dreth ystafell wely a lleihau'r defnydd o lety gwely a
brecwast i gartrefu pobl mewn argyfwng.