Pobl y Senedd

Gareth Bennett AS

Gareth Bennett AS

Heb Grŵp

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn credu bod datganoli wedi dal y ddarpariaeth o ofal iechyd a'i chanlyniadau yn ôl yng Nghymru. Yn galw am ddull integredig DU-gyfan o ymdri...

I'w drafod ar 05/03/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yng Nghanol De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 17/02/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yng Nghanol De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 17/02/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â statws cyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig?

Wedi'i gyflwyno ar 04/02/2021

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y gallai myfyrwyr fod wedi syrthio ar ei hôl hi yn ystod pandemig COVID-19?

Wedi'i gyflwyno ar 03/02/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yng Nghanol De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 27/01/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Gareth Bennett AS

Bywgraffiad

Roedd Gareth Bennett yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyrhaeddiadau

Mae diddordebau gwleidyddol Gareth yn cynnwys materion cyfansoddiadol, chwaraeon, masnach drwyddedig, sgiliau ac ail-hyfforddi, a thai. Cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, roedd yn gyd-awdur llyfrau ar bêl-droed a hanes lleol.

Hanes personol

Ganwyd Gareth yng Nghaerdydd a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Radyr, Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Cafodd Gareth hyfforddiant fel gohebydd papur newydd a bu’n gweithio ar bapurau newydd lleol. Yna bu mewn swyddi amrywiol mewn gwahanol feysydd, o swyddi gweinyddol i waith labro yn ôl y gofyn.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Gareth am y tro cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol yn yr Etholiad ym mis Mai 2016.

Ym mis Tachwedd 2018, gadawodd Gareth UKIP a daeth yn Aelod Cynulliad Annibynnol.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Gareth Bennett AS