Pobl y Senedd

Siân Gwenllian AS

Siân Gwenllian AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Arfon

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Ar ba ddyddiad y disgwylir i gynllun gweithlu deintyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru gael ei gyhoeddi?

Wedi'i gyflwyno ar 08/05/2024

Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gael gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg am effaith cynlluniau i adeiladu gorsafoedd nwy yn Arfon ar dargedau new...

Wedi'i gyflwyno ar 08/05/2024

Pa gynlluniau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i hyfforddi seicolegwyr addysg yn Arfon?

Wedi'i gyflwyno ar 30/04/2024

Ymhellach i WQ92440, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau fesul blwyddyn o ba brifysgolion y gwnaeth gweddill y myfyrwyr sy’n gwneud eu hyfforddiant deintyddol sylfaenol yng Nghymru...

Wedi'i gyflwyno ar 29/04/2024

Pa ofynion neu ddisgwyliadau penodol y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi o ran gallu yn y Gymraeg fesul carfan bob blwyddyn wrth i'r Ysgol Feddygol ym Mangor ddod yn weithredol?

Wedi'i gyflwyno ar 29/04/2024

Faint o'r myfyrwyr fydd yn dechrau ar eu hastudiaethau meddygol yn yr Ysgol Feddygol newydd ym Mangor ym mis Medi 2024 sydd yn gallu siarad Cymraeg?

Wedi'i gyflwyno ar 29/04/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Siân Gwenllian AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Etholwyd Siân i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016 i gynrychioli etholaeth Arfon dros Blaid Cymru. Cafodd ei hail-hethol i Senedd Cymru yn 2021 gan ddyblu ei mwyayfrif a gyda 63.3% o’r bleidlais – y ganran uchaf o blith Aelodau Senedd Cymru.

Hanes personol

Addysgwyd Siân yn Ysgol Friars, Bangor ac ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Ar ôl colli ei gŵr bun magu ei 4 plentyn ar ei phen ei hun. Mae wedi bod yn ymgyrchydd brwd dros gydraddoldeb i ferched a thros yr iaith Gymraeg ers dros 45 mlynedd. Mae ei diddordebau y tu allan i wleidyddiaeth yn cynnwys theatr, celf, y sîn gerddoriaeth Gymraeg, pêl-droed a rygbi.

Cefndir proffesiynol

Bu Siân yn gweithio fel newyddiadurwr gyda'r BBC, HTV a chwmni Golwg. Bu’n gweithio hefyd ym maes cysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys fel swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd.

Hanes gwleidyddol

Bu Siân yn weithgar gyda nifer o fudiadau cymunedol, fel llywodraethwr ysgol ac fel cynghorydd cymuned. Rhwng 2008 a 2016 bu'n gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, yn cynrychioli’r Felinheli lle cafodd ei magu. Rhwng 2010 a 2012 hi oedd yn gyfrifol am bortffolio cyllid yr awdurdod a rhwng 2012 a 2014 roedd hi'n aelod o'r Cabinet dros addysg, plant a phobl ifanc ac yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor. Yn 2014 penodwyd Siân yn bencampwr busnesau bach Gwynedd, yn gyfrifol am hyrwyddo'r sector hon o'r economi yn y sir. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Etholaeth Arfon o Blaid Cymru.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Siân Gwenllian AS