Pobl y Senedd

Lee Waters AS

Lee Waters AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Llanelli

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Lee Waters yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Lee Waters yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeir...

I'w drafod ar 12/09/2023

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Gosodwyd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Ae...

I'w drafod ar 05/09/2023

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Se...

I'w drafod ar 05/09/2023

A wnaiff Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ar sut y gall helpu cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru i baratoi ar gyfer yr heriau sy'n deillio o dechnoleg newydd?

Wedi'i gyflwyno ar 21/11/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i alluogi cwmnïau i barhau i fod o dan berchnogaeth Gymreig?

Wedi'i gyflwyno ar 21/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu swyddi yn ffatri Schaeffler yn Llanelli?

Wedi'i gyflwyno ar 15/11/2018

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Lee Waters AS

Bywgraffiad

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Lee Waters yw Aelod Senedd Cymru ar gyfer Llafur Cymru a’r Blaid Gydweithredol dros etholaeth Llanelli.

Cyn iddo gael ei ethol ym mis Mai 2016, Lee oedd Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, sef prif felin drafod annibynnol Cymru. Cyn hynny fe redai Sustrans Cymru, elusen ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy. Yno, arweiniodd yr ymgyrch dros Ddeddf Teithio Llesol. Mae'n gyn-Brif Ohebydd Gwleidyddol i ITV Cymru.

Mae ganddo ddiddordebau polisi eang, gan gynnwys yr economi, y cyfansoddiad, newid yn yr hinsawdd, y cyfryngau a'r ddarpariaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Hanes personol

Ganed Lee Waters yn Nyffryn Aman yn sir Gaerfyrddin, ac yno y cafodd ei fagu. Cafodd ei addysg ym Mrynaman ac yn Rhydaman, yn ysgol gyfun y dref honno. Ef yw'r cyntaf o'i deulu i fynd i'r brifysgol, a graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, gyda Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Gwleidyddiaeth.

Mae'n briod ac mae ganddo ddau o blant. Mae'n siarad Cymraeg fel ail iaith.

Cefndir proffesiynol

Cyn iddo gael ei ethol yn 2016, Lee oedd Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig. Yn ystod y tair blynedd y bu’n arwain y sefydliad polisi annibynnol, adnewyddodd yr elusen, gan sefydlogi ei sefyllfa ariannol, ailwampio ei systemau a gosod strategaeth newydd. Golygodd y cylchgrawn dylanwadol, The Welsh Agenda, a hyrwyddodd y dull arloesol o gyllido torfol ym maes datblygu polisi gyda thri phrosiect a oedd yn torri tir newydd.

Rhwng 2007 a 2013, Lee oedd Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy, lle y goruchwyliodd amryw brosiectau ymarferol i annog newid ymddygiad a dylanwadu ar bolisi. Arweiniodd dîm o 32 er mwyn cyflwyno portffolio amrywiol o raglenni cymhleth gwerth dros £24 miliwn.

Cyn iddo weithio yn y trydydd sector roedd Lee yn newyddiadurwr gwleidyddol. Ac yntau'n Brif Ohebydd Gwleidyddol Newyddion ITV Cymru, cyflwynai Waterfront, y rhaglen wythnosol ar wleidyddiaeth, a gohebai ar y Cynulliad Cenedlaethol ac ar Dŷ'r Cyffredin fel Gohebydd Lobi. Dysgodd Lee hanfodion newyddiadura yn y BBC lle treuliodd ddwy flynedd fel cynhyrchydd ar y rhaglen newyddion, Good Morning Wales.

Hanes gwleidyddol

Yn 18 oed ac yntau yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ymunodd Lee â’r Blaid Lafur. Ar ôl bwrw interniaeth yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau fel ESU Capitol Hill Scholar, cymerodd saib oddi wrth astudio am flwyddyn i weithio i'w Aelod Seneddol lleol yn Etholiad Cyffredinol 1997 ac yn y refferendwm ar ddatganoli.

Ar ôl graddio, fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Gwleidyddol i Ron Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ar ôl blwyddyn gynhyrfus, a oedd yn cynnwys etholiad cyntaf y Cynulliad, aeth Lee i fyd newyddiaduraeth. Er iddo weithio mewn byd cyfyng o ran gwleidyddiaeth, daeth yn Llywodraethwr ysgol gweithgar, a chododd y profiad hwnnw awydd arno o'r newydd i newid cymdeithas.

Yn 2007, daeth Lee yn Gyfarwyddwr Cymru ar elusen amgylcheddol Sustrans, ac am chwe blynedd, arweiniodd ymgyrch lwyddiannus i sicrhau Deddf Teithio Llesol gyntaf y byd er mwyn codi lefelau cerdded a beicio.

Cafodd ei benodi gan Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn gynrychiolydd Llafur Cymru ar 'Ie dros Gymru', yr ymgyrch drawsbleidiol yn refferendwm datganoli 2011. Fel Is-gadeirydd, arweiniodd ar gyfathrebu a negeseuon, ac roedd yn aelod o'r grŵp bach a lywiodd yr ymgyrch lwyddiannus.

Ar ôl i'r Aelod Cynulliad Llafur dros Lanelli ymddeol yn haf 2015, detholwyd Lee yn ymgeisydd y blaid yn etholaeth ei fro ac fe ddaliodd y sedd - y tro cyntaf i unrhyw blaid lwyddo i gadw’r etholaeth mewn etholiad Cynulliad.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Lee Waters AS