Pobl y Senedd

David J Rowlands AS

David J Rowlands AS

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o oblygiadau'r Undeb Ewropeaidd yn galw erthygl 16 i rym mewn perthynas â brechlynnau COVID-19?

Wedi'i gyflwyno ar 04/02/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 03/02/2021

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd awdurdodau lleol mewn perthynas ag etholiadau'r Senedd yn 2021?

Wedi'i gyflwyno ar 21/01/2021

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith gadael yr UE ar borthladdoedd Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 20/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwahaniaeth rhwng y ffigurau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'r rhai a ddarparerir yn adroddiadau wythnosol Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar hysbysiad...

Wedi'i gyflwyno ar 07/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y coronafeirws ar economi Dwyrain De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 10/12/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: David J Rowlands AS

Bywgraffiad

Roedd David J Rowlands yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae David wedi bod yn ddyn busnes am y rhan fwyaf o’i oes, ac ef oedd perchennog Clwb Golff Alice Springs yn Sir Fynwy ar un adeg.

Hanes personol

Ganwyd David ym mhentref glofaol Argoed yn Nyffryn Sirhywi. Mae’r enw Argoed yn awgrymu bod y pentref ar dir a oedd unwaith ‘yn goediog’. Roedd yr ardal yn gymuned lofaol Gymreig nodweddiadol. Aeth David i Ysgol Ramadeg Pontllanfraith.

Hanes gwleidyddol

Mae David wedi bod yn aelod o UKIP am 17 mlynedd a bu’n gadeirydd UKIP Cymru am ddau dymor. Mae’n Gadeirydd cangen Dwyrain De Cymru ar hyn o bryd, ar ôl iddo roi’r gorau i’w rôl fel Cadeirydd Cymru yn dilyn ei etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: David J Rowlands AS