Pobl y Senedd

Mike Hedges AS

Mike Hedges AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru a chydweithredol

Grŵp Llafur Cymru

Dwyrain Abertawe

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Fenter Iaith Abertawe?

Wedi'i gyflwyno ar 06/03/2024

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnydd o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai?

Wedi'i gyflwyno ar 21/02/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal y defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi yng Nghymru gan gwmnïau sy'n contractio gyda chyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 11/01/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaethau bysiau yn Abertawe?

Wedi'i gyflwyno ar 07/12/2023

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y tywydd oer diweddar ar bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd?

Wedi'i gyflwyno ar 06/12/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â nifer yr adeiladau gwag yn Abertawe?

Wedi'i gyflwyno ar 30/11/2023

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mike Hedges AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae diddordebau Mike yn cynnwys chwaraeon, yr Urdd a chorau. Mae Mike yn gysylltiedig â Chyfeillion y Ddaear, Oxfam ac Amnest Rhyngwladol ac mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, tai, llywodraeth leol, darpariaeth chwaraeon ac amddifadedd cymdeithasol.

Hanes personol

Mae Mike wedi byw yn Nhreforys ers blynyddoedd, ond cafodd ei eni yn Mhlasmarl. Mae'n briod ag Anne ac mae ganddynt ferch, Catrin, sy'n mynd i Prifysgol Bangor. Aeth i ysgolion ym Mhlasmarl, Parklands a Phenlan ac yna i brifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

Cefndir proffesiynol

Yn wreiddiol, gweithiodd Mike fel gwyddonydd ymchwil ar gyfer British Steel ym Mhort Talbot, ac fe dreuliodd 27 mlynedd fel darlithydd cyfrifiadureg ym Mhontypridd cyn dod yn Aelod Cynulliad.

Hanes gwleidyddol

Fe gynrychiolodd Mike ward Treforys ar Gyngor Abertawe rhwng 1989 a 2012 ac fe gafodd sawl swydd o fewn y cyngor, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor. Mae wedi bod yn llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym meysydd gwasanaethau cymdeithasol a gwybodaeth.

Mae'n diddori ym maes addysg, ac mae Mike wedi bod yn llywodraethwr Prifysgol Abertawe, Athrofa Abertawe, Ysgolion Cyfun Mynyddbach a Threforys a Choleg Abertawe, ac mae'n gadeirydd y llywodraethwyr ar gyfer ysgolion cynradd Glyncollen ac Ynystawe ar hyn o bryd.

Bu hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ymddiriedolaeth GIG Abertawe rhwng 1999 a 2005.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mike Hedges AS