Pobl y Senedd

Russell George AS

Russell George AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Sir Drefaldwyn

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar 26 Ionawr 2022 ar heintiau a gaffaelwyd mewn ysbytai, a wnaiff y Gweinidog amlinellu paramedrau'r fframwaith ymchwilio, ac amlinellu sut y bydd hyn yn...

Wedi'i gyflwyno ar 31/01/2022

Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar 26 Ionawr 2022 ar heintiau a gafwyd mewn ysbytai, sut mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd y fframwaith ymchwilio newydd yn ategu'r ymchwiliadau Gweithi...

Wedi'i gyflwyno ar 31/01/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o unrhyw fylchau yng nghronfa ddata ICNET, gan gynnwys adrodd am farwolaethau o heintiau a gafwyd mewn ysbytai?

Wedi'i gyflwyno ar 31/01/2022

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw'r camau a amlinellir yn Fframwaith Ansawdd a Diogelwch 2021 ynghylch Gweithio i Wella wedi'u cyflawni'n effeithiol, gan gynnwys sicrhau bod pryderon te...

Wedi'i gyflwyno ar 31/01/2022

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw'r £4.5 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd ar gyfer ymchwilio i heintiau COVID-19 a gaffaelwyd mewn ysbytai eisoes wedi'i ddyrannu i'r broses Gweithio i Wella...

Wedi'i gyflwyno ar 31/01/2022

Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar 26 Ionawr 2022, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut y cyfrifwyd yr 1 y cant o heintiau a gafwyd mewn ysbytai ac a oedd hyn yn gyfartaledd a gymerwyd o...

Wedi'i gyflwyno ar 31/01/2022

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Russell George AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Blaenoriaethau cyfredol Russell yw cadw a gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol i bobl Sir Drefaldwyn. Mae Russell hefyd yn teimlo'n angerddol am annog pobl iau i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ac mae'n awyddus i gefnogi ac annog busnesau newydd a thwf busnesau bach. Roedd Russell yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o hyrwyddo ffordd osgoi'r Drenewydd ac mae'n ymgyrchu dros wella band eang yn ardaloedd gwledig Cymru. Mae hefyd wedi gwrthwynebu'n gryf ddatblygiad tyrbinau gwynt ar y tir ledled canolbarth Cymru. Mae ei ddiddordebau personol yn cynnwys cadw'n iach. Ef yw Llywydd Cyngor Sgowtiaid Ardal Sir Drefaldwyn a Dirprwy Lywydd Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor Sir Drefaldwyn. Mae hefyd yn aelod o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, ac yn aelod o Hope Church yn y Drenewydd; felly mae wedi bod yn rhan o lawer o brosiectau sy'n cefnogi'r gymuned.

Hanes personol

Ganed Russell yn y Trallwng ym 1974 a chafodd ei fagu yn Sir Drefaldwyn ac yno yr aeth i’r ysgol. Mae ganddo radd mewn Astudiaethau Gwybodaeth a’r Cyfryngau o Brifysgol Canolbarth Lloegr.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei ethol i'r Senedd, roedd Russell yn gynghorydd tref, yn llywodraethwr ysgol, yn aelod o Fwrdd Coleg Powys, ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Theatr Hafren.

Hanes gwleidyddol

Russell George yw’r Aelod o Senedd Cymru dros Sir Drefaldwyn ac mae wedi cynrychioli’r etholaeth er 2011. Russell yw Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd, ac mae ei rôl fel llefarydd ar ran Grŵp Ceidwadwyr Cymru hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb am Ganolbarth Cymru. Mae wedi cadeirio Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Senedd Cymru ers 2016. Etholwyd Russell i Gyngor Sir Powys yn 2008 ac roedd yn aelod o fwrdd rheoli gweithredol y Cyngor rhwng 2008 a 2011. Pan etholwyd ef i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011, fe’i penodwyd yn Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy cyn dod yn Weinidog yr Wrthblaid dros Amaethyddiaeth a Materion Gwledig rhwng 2014 a 2016. Ym mis Mai 2016, etholwyd Russell i'r Cynulliad gyda mwyafrif cynyddol. Rhwng 2013 a 2016, sefydlodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol ac ef oedd cadeirydd y Grŵp hwn a oedd yn ymgyrchu dros welliannau o ran y graddau yr oedd band eang cyflym iawn a signal ffonau symudol ar gael yng Nghymru ac, yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, roedd yn aelod gweithgar o Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a Phwyllgor Deisebau y Cynulliad.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Russell George AS