Pobl y Senedd

Rhun ap Iorwerth AS

Rhun ap Iorwerth AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Ynys Môn

Arweinydd Plaid Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Mae'r Senedd hon: 1. Yn dathlu 200 mlynedd ers sefydlu Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. 2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae'r elusen wedi'i wneud i gadw arfordiroed...

I'w drafod ar 07/03/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ifanc i ddechrau gweithio ar Ynys Môn?

Wedi'i gyflwyno ar 06/03/2024

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd toriadau posibl i'r gyllideb brentisiaethau yn ei chael ar y sector addysg bellach ar Ynys Môn?

Wedi'i gyflwyno ar 14/02/2024

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddiwygio rheoliadau i ganiatáu gosod tyrbinau gwynt bach wedi'u gosod ar y to heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio?

Wedi'i gyflwyno ar 07/02/2024

Pa ystyriaeth mae’r Gweinidog wedi ei roi i ychwanegu dioddefwyr osteoporosis i’r rhestr o glefydau sy’n gymwys am gefnogaeth gan y rhaglen Cartrefi Clyd?

Wedi'i gyflwyno ar 07/02/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y symiau canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru o ganlyniad i'r fargen a'r pecyn cyllido gwerth £3bn i adfer...

Tabled on 31/01/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rhun ap Iorwerth AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol gyntaf yn aelod dros Ynys Môn mewn is-etholiad ym mis Awst 2013. Cafodd ei fagu ar yr ynys a’i addysgu yn Ysgol David Hughes a Phrifysgol Caerdydd, lle graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg. Yn rhugl yn y Gymraeg, mae'n briod ac mae ganddo dri o blant.

Cefndir proffesiynol

Bu Rhun yn newyddiadurwr a darlledwr am bron i 20 mlynedd cyn cael ei ethol. Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, gan dreulio cyfnod yn San Steffan cyn dychwelyd i Gymru wedi pleidlais datganoli 1997. Bu’n Brif Ohebydd Gwleidyddol, yn ohebydd i Newyddion Rhwydwaith y BBC, a chyflwynodd ystod eang o raglenni teledu a radio, yn Gymraeg a Saesneg.

Hanes gwleidyddol

Ers ei ethol gyntaf, mae Rhun wedi treulio cyfnodau fel Gweinidog Cysgodol Dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Iechyd a Gofal, a Chyllid, ac fel aelod o’r pwyllgorau cyfatebol yn y Cynulliad a’r Senedd. Bu hefyd yn aelod ar wahanol adegau o’r Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus, Deisebau a Safonau, yn ogystal ag yn un o Gomisiynwyr y Senedd, ac yn un o Ddirprwy Arweinwyr Grwp Plaid Cymru yn ystod y Pumed Senedd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 02/08/2013 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Rhun ap Iorwerth AS