Pobl y Senedd

Carl Sargeant

Carl Sargeant

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Y mater yn y fan hon, Llywydd, yw gwneud yn siŵr fod yr hyn a wnawn yma’n addas i’r diben, gan ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae Plaid Cymru yn amlwg wedi cyflw...

Y Cyfarfod Llawn | 25/10/2017

[Yn parhau.]—ond nid ydynt wedi ystyried y broses honno’n llawn, yn enwedig costau gwneud hyn.

Y Cyfarfod Llawn | 25/10/2017

Nid wyf yn mynd i dderbyn rhagor o ymyriadau gan Aelodau oherwydd—[Torri ar draws.] Wel—

Y Cyfarfod Llawn | 25/10/2017

Gadewch i mi ddweud wrthych fy mod wedi bod yn Llundain ac rwyf wedi siarad â’r Arglwydd Freud am yr union faterion a grybwyllodd eich cyd-Aelod, yn enwedig ynglŷn â materion menywod a’r...

Y Cyfarfod Llawn | 25/10/2017

Wrth gwrs y gwnaf.

Y Cyfarfod Llawn | 25/10/2017

Diolch, Llywydd. Yr hyn nad ydym yn ei gydnabod yma, mewn gwirionedd, yw bod hawlydd sy’n methu mynd i un o’r cyfarfodydd, am ba reswm bynnag—salwch, neu fynd i weithio, fel y dywedodd yr...

Y Cyfarfod Llawn | 25/10/2017

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Carl Sargeant

Bywgraffiad

Roedd Carl Sargeant yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng mis Mai 2003 a mis Tachwedd 2017 ac roedd yn cynrychioli Llafur Cymru. Dyma ei fywgraffiad pan fu farw.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae'r teulu cyfan yn dilyn pêl-droed ac mae Carl yn mwynhau gwylio Clwb Pêl-droed Newcastle yn chwarae. Yn lleol, mae'n llywydd Clwb Pêl-droed Nomads Cei Connah.

Hanes personol

Mae Carl wedi byw yng Nghei Connah yn ei etholaeth erioed. Mae'n briod â Bernie ac mae ganddynt ddau o blant, Lucy a Jack.

Cefndir proffesiynol

Cyn dod yn Aelod Cynulliad yn 2003, roedd Carl yn gweithio mewn ffatri gweithgynhyrchu cemegol blaenllaw ac roedd yn archwilydd ansawdd ac amgylcheddol ac yn ddiffoddwr tân diwydiannol.

Hanes gwleidyddol

Mae Carl yn ymgyrchydd yn erbyn trais domestig. Cafodd ymrwymiad Carl tuag at gyfiawnder cymdeithasol ei sbarduno ar ôl gweld y dinistr yn ei gymuned leol yn y 1980au. Daeth y gwaith dur i ben yn Shotton ac fe gollodd 6,500 o bobl eu swyddi dros nos. Cafodd hyn, yn ogystal â chau'r felin tecstilau lleol ac effeithiau'r dirwasgiad, effaith andwyol ar y gymuned. Ar un adeg, roedd dros 30 y cant o ddynion lleol yn ddi-waith.

Yn y cyd-destun hwnnw, bu Carl yn dyst i effaith niweidiol yfed trwm a thrais domestig ar deuluoedd lleol. Mae'n ymgyrchydd diflino yn erbyn cam-drin domestig, gan hyrwyddo ymgyrch y Rhuban Gwyn a chefnogi'r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig yn Shotton.

Mae wedi gwasanaethu ar Gyngor Tref Cei Connah ac fel llywodraethwr Coleg Glannau Dyfrdwy ac Ysgol Bryn Deva.

Yn y Trydydd Cynulliad, daeth Carl yn Brif Chwip y Grŵp Llafur a'i swydd gyntaf yn y Llywodraeth oedd y Dirprwy Weinidog dros Fusnes y Cynulliad. Ers hynny, mae wedi bod yn Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, yn Weinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn Weinidog Tai ac Adfywio, yn Weinidog Adnoddau Naturiol ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Carl Sargeant