Pobl y Senedd

Lynne Neagle AS

Lynne Neagle AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Torfaen

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Lynne Neagle yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Lynne Neagle yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad cyflogau'r GIG?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran darparu llwybr ar gyfer ymyriadau yn dilyn hunanladdiad i Gymru?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo llesiant disgyblion yn y cynlluniau dychwelyd i'r ysgol?

Wedi'i gyflwyno ar 10/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran gwerthuso'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia gan Opinion Research Services a darparu amserlen ar gyfer cwblhau'r gwerthusiad?

Wedi'i gyflwyno ar 05/03/2021

Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod lles plant a phobl ifanc yn cael ei flaenoriaethu wrth ystyried llacio'r cyfyngiadau symud?

Wedi'i gyflwyno ar 04/03/2021

Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i Uned Gyflawni'r GIG gwblhau a chyhoeddi ei hadolygiad o effeithiolrwydd gwasanaethau argyfwng a chyswllt seiciatrig y GIG yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 01/03/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Lynne Neagle AS

Bywgraffiad

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Lynne yn ymgyrchu’n frwd dros atal hunanladdiad a dros iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Hi oedd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Bumed Senedd.

Hanes personol

Ganed Lynne Neagle ym Merthyr Tudful ym 1968 a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa cyn mynd i Brifysgol Reading lle astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg. Mae hi’n briod â Huw Lewis, yr Aelod Cynulliad a oedd yn cynrychioli Merthyr Tudful a Rhymni tan y Bumed Senedd, ac mae ganddi ddau fab.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd ar y pryd, ym 1999, bu Lynne yn gweithio mewn nifer o swyddi yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, fel Shelter Cymru, Mind a Chyngor ar Bopeth. Roedd yn Swyddog Datblygu Gyrfaoedd gyda Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd a gweithiodd hefyd fel ymchwilydd i Glenys Kinnock ASE.

Hanes gwleidyddol

Lynne oedd cadeirydd y Grŵp Llafur yn y Cynulliad am gryn amser, tan 2008. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys iechyd, tai, gwasanaethau cymdeithasol, Ewrop a dyfodol cymoedd y De. Yn y Bumed Senedd, Lynne oedd cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 07/05/1999 - 30/04/2003
  2. 02/05/2003 - 02/05/2007
  3. 04/05/2007 - 31/03/2011
  4. 06/05/2011 - 05/04/2016
  5. 06/05/2016 - 28/04/2021
  6. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Lynne Neagle AS