Pobl y Senedd

Lesley Griffiths AS

Lesley Griffiths AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Wrecsam

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Lesley Griffiths yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Lesley Griffiths yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno, yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio, system newydd sy’n seiliedig ar anghenion cymharol ac sydd wedi’i chymera...

I'w drafod ar 14/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diw...

I'w drafod ar 12/03/2024

Cynnig bod y Senedd yn cymeradwyo'r casgliadau a'r argymhellion yn Adroddiad Terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ac yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argym...

I'w drafod ar 12/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024 yn cael ei llun...

I'w drafod ar 12/03/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu o ran Cyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU 2024: a) nid yw’n darparu unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru...

I'w drafod ar 08/03/2024

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) i’r graddau y maent yn dod o fewn c...

I'w drafod ar 05/03/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Lesley Griffiths AS

Bywgraffiad

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Tai, iechyd a lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Hanes personol

Cafodd Lesley ei magu yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae wedi byw a gweithio yn Wrecsam ers dechrau gweithio.

Cefndir proffesiynol

Treuliodd Lesley 20 mlynedd yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Cyn iddi gael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bu'n gweithio fel Cynorthwy-ydd Etholaethol i Ian Lucas, AS.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Lesley i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2007.  Sefydlodd y Grŵp Hosbis Trawsbleidiol, a bu’n gadeirydd arno.  Ym mis Rhagfyr 2009, cafodd ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau.  Ar ôl cael ei hailethol ym mis Mai 2011, cafodd ei phenodi’n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Ym mis Mawrth 2013, penodwyd Lesley yn Weinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Ym mis Medi 2014, fe'i penodwyd yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, ac yn 2016 yn Gweinidog Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Ar ôl iddi gael ei hail ailethol yn 2021, penodwyd Lesley yn Weinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021
  4. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Lesley Griffiths AS