Pobl y Senedd

Janice Gregory

Janice Gregory

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Janice Gregory

Bywgraffiad

Roedd Janice Gregory yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Cafodd Janice Gregory ei geni yn Nhreorci, ac mae’n ferch i Syr Ray Powell a oedd yn AS Llafur dros Ogwr rhwng 1979 a 2001. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr i Ferched. Mae’n byw ym Mhencoed ac mae’n briod. Mae ganddi ddau o blant a dau o wyrion.

Cefndir proffesiynol

Bu Janice yn gweithio fel ysgrifennydd etholaeth a gweithiwr achos i Syr Ray Powell AS o 1991.

Cefndir gwleidyddol

Cafodd Janice ei hethol i’r Cynulliad ym mis Mai 1999 a’i hailethol yn 2003, 2007 a 2011. Mae wedi bod yn Brif Chwip y Llywodraeth ers 2009.

Rhwng 2007 a 2011 (yn ystod y Trydydd Cynulliad), Janice oedd Cadeirydd y Grŵp Llafur a Chadeirydd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant. Bu hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, y Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3.

Drwy gydol ei gyrfa fel Aelod Cynulliad, mae ei swyddi hefyd wedi cynnwys cadeirio’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, a Phwyllgor Rhanbarthol Gorllewin De Cymru. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys plant, swyddi, mynd i’r afael â thlodi, iechyd ac adfywio.

Ymgysylltiadau

Mae Janice yn aelod o’r UNITE the Union, USDAW, y Blaid Gydweithredol a’r Gymdeithas Fabian

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Janice Gregory