Pobl y Senedd

Angela Burns AS

Angela Burns AS

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a oes cynlluniau i gynyddu'r cyllid ar gyfer ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru ac, os felly, faint fydd y cynnydd?

Wedi'i gyflwyno ar 18/03/2021

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio?

Wedi'i gyflwyno ar 18/03/2021

A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o nifer y menywod sy'n aros dros bythefnos am eu prawf ceg y groth ar 16 Mawrth 2021, fesul wythnos?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth y mae cyllideb 2021-22 yn ei ddarparu ar gyfer clinigau a gwasanaethau rheoli poen yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

A yw'r Gweinidog wedi ystyried defnyddio clinigau rheoli poen annibynnol i gynorthwyo gyda'r ôl-groniad presennol o gleifion?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddarparu amseroedd aros cyfartalog ar gyfer canlyniadau profion ceg y groth ym mis Ionawr 2020 a mis Ionawr 2021?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Angela Burns AS

Bywgraffiad

Roedd Angela Burns yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2007 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Angela wrth ei bodd yn yr awyr agored ac yn mwynhau marchogaeth, hwylio a cherdded ei chŵn. Mae'n treulio unrhyw amser sbâr sydd ganddi gyda'i theulu.

Hanes personol

Cafodd Angela ei haddysgu yn Lloegr ac mae'n dod o deulu milwrol a arweiniodd ati'n cael ei magu mewn nifer o wledydd. Mae'n briod â Stuart ac mae ganddynt ddau o blant ifanc.

Cefndir proffesiynol

Cyn dechrau mewn gwleidyddiaeth, roedd Angela yn gweithio mewn busnes ar gyfer nifer o gwmnïau mawr, gan gynnwys Waitrose, Thorn EMI ac Asda. Aeth yn ei blaen i fod yn gyfarwyddwr cwmni cyn symud i Sir Benfro gyda'i gŵr a'i dwy ferch ifanc.  

Hanes gwleidyddol

Cafodd Angela ei hethol i'r Cynulliad am y tro cyntaf yn 2007 gyda mwyafrif o dan 100. Bu'n gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Gweinidog yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth a Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyllid yn y Trydydd Cynulliad, yn ogystal â chadeirio Pwyllgor Cyllid y Cynulliad.

Ailetholwyd Angela gyda mwyafrif cynyddol yn 2011 ac, am gyfnod y Pedwerydd Cynulliad, bu'n gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg; roedd yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac fe'i penodwyd yn un o Gomisiynwyr y Cynulliad a oedd yn golygu ei bod yn dirprwyo i'r Llywydd yn y Siambr yn achlysurol.

Ym mis Mai 2016, cynyddodd mwyafrif Angela unwaith eto yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ac, ar ôl dychwelyd i'r Cynulliad, cafodd ei phenodi'n aelod o Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad. Mae hefyd yn lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Angela Burns AS