Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd
Diben: I fynd i'r afael â materion cydraddoldeb anabledd allweddol ar gyfer pob nam, gan gynnwys gweithredu'r Model Cymdeithasol o Anabledd a'r hawl i Fyw'n Annibynnol.
Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd ei ail-sefydlu yn 2016 ac mae'n cael ei gadeirio gan Mark Isherwood AC. Mae'r Grŵp yn cynnwys Aelodau'r Cynulliad o rai o'r prif bleidiau gwleidyddol ac aelodau o Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru, sy'n cynnwys cyrff ymbarél yng Nghymru sy'n cynrychioli buddiannau pobl anabl.
Nod y grŵp yw codi ymwybyddiaeth ynghylch materion anabledd allweddol ar gyfer pob nam ac i hyrwyddo pryderon pobl anabl. Ni fydd y Grŵp yn gwneud gwaith achos, ond bydd yn cyfeirio ymholwyr fel y bo'n briodol.
Dyma'r prif themâu y bydd y Grŵp yn ymdrin â nhw:
• Model Cymdeithasol o Anabledd
• Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
• Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Byw'n Annibynnol - Cynllun ar gyfer adolygiad
• Strategaeth gyflogaeth
• Effaith gymdeithasol, economaidd, gwleidyddol, polisi a deddfwriaeth ar bobl anabl yng Nghymru a'r DU
• Effaith gadael yr UE ar bobl anabl yng Nghymru
• Diwygio lles
Cynhelir cyfarfodydd bob chwarter, gan gynnwys un cyfarfod 'agored'.
Darperir gwasanaeth ysgrifenyddiaeth gan Anabledd Dysgu Cymru ar ran Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru, a dyma'r sefydliadau sy'n aelodau:
Anabledd Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, Mind Cymru, Vision in Wales, Cyngor Cymru i Bobl Fyddar.
Deiliaid swyddi
Cadeirydd: Mark Isherwood
Ysgrifennydd: Zoe Richards, Anabledd Dysgu Cymru
Y cyfarfod nesaf
Dyddiad:
Amser:
Lleoliad:
Dogfennau'r Grŵp Trawsbleidiol:
Cofnodion cyfarfodydd blaenorol
Adroddiadau Blynyddol a Datganiadau Ariannol
Cyswllt:
Zoe Richards
Ffôn: 02920 681160