Grŵp Trawsbleidiol

Croen - Pedwerydd Cynulliad (2011-2016)

Disgrifiad

Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol hwn ei ddiddymu ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad (Ebrill 2016)

 

Diben

>>>> 

>>>Tynnu sylw at yr hyn sy’n achosi clefydau’r croen, sut i’w hatal a’u trin a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr.

>>>Hwyluso gwell partneriaeth a chydweithio gyda sefydliadau sy’n cefnogi pobl sydd â chlefydau’r croen, arbenigwyr yn y maes ac unigolion ledled Cymru a sefydliadau gwirfoddol sy’n eirioli dros gyflyrau iechyd sydd â chysylltiad agos â chlefydau’r croen.

>>>Tynnu sylw at arloesi, ymchwil newydd ac arbenigedd mewn perthynas â chlefydau’r croen ac iechyd y croen.

>>>Darparu fforwm ar y cyd ac awdurdodol i alluogi Aelodau'r Cynulliad i ddysgu am y materion allweddol sy’n wynebu pobl yng Nghymru sy’n byw gyda chlefydau a chyflyrau’r croen.

>>>Darparu fforwm agored i alluogi aelodau i godi materion ac archwilio cyfleoedd ar gyfer gwaith cydweithredol.

<<< 

 

Deiliaid swyddi

Cadeirydd: Nick Ramsay AC

 

Ysgrifennydd: Sarah Wright

 

Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

Mae cofnodion pob cyfarfod (a gyhoeddir cyn pen pedair wythnos ar ôl y cyfarfod) i’w gweld yma:

Cofnodion

 

Yr Adroddiad Blynyddol a’r Datganiad Ariannol

Mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Datganiad Ariannol (a gyhoeddir cyn pen chwe wythnos ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) i’w gweld yma:

Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol

Gwybodaeth gyswllt

Cyswllt:
Sarah Wright (Skin Care Cymru)

Aelodau

  • Nick Ramsay AS (Cadeirydd)
  • Kirsty Williams AS
  • Y Gw. Anrh. Elin Jones AS
  • Sarah Wright - Skin Care Cymru
  • Yr Athro Andrew Davies - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
  • Sarah Griffiths-Little - Grŵp Cymorth Ichthyosis
  • Paul Hewitt - Novartis
  • Jenny Hughes - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg / Fforwm Dermatoleg Cymru
  • Max Murison - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
  • James Partridge - Changing Faces
  • Anita Ralli - Leo Pharma
  • Paul Thomas - Skin Care Cymru
  • Dominic Urston - Y Gymdeithas Psorïasis
  • Iain Whitaker - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg / Prifysgol Abertawe
  • Keith Harding - Canolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau