Dadl ar Gomisiwn Bevan
Dadl ar Gomisiwn Bevan
NNDM4730 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. yn croesawu adroddiad Comisiwn Bevan
"2008 – 2011 NHS Wales: Forging a better future" a
2. yn nodi'r dadleuon sydd ynddo o blaid:
a) cydnabod yr heriau anodd sy'n wynebu'r GIG
yn y dyfodol;
b) cefnogi newidiadau i wasanaethau sy'n
hanfodol er mwyn diogelu dyfodol y GIG;
c) cefnogi camau gweithredu yn y maes
clinigol i wella diogelwch ac ansawdd y gofal a roddir i gleifion; a
d) creu gwir bartneriaeth gyda'r cyhoedd er
mwyn sicrhau bod yr ethos a oedd yn sail i sefydlu'r GIG yng Nghymru yn cael ei
gynnal yn y dyfodol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Ym mhwynt 1, dileu “Yn croesawu” a rhoi “Yn
nodi” yn ei le.
Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn siomedig â chynigion Llywodraeth Cymru i
leihau cyllidebau’r GIG dros y 3 blynedd nesaf.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig
Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun
manwl, gyda thargedau y gellir eu mesur, i wneud yn siŵr y gall y gwasanaeth iechyd ymateb i’r
heriau a nodir yn yr adroddiad.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
ymateb manwl a chynhwysfawr i’r adroddiad mewn modd sy’n dangos ei hymrwymiad i
GIG cynaliadwy, gan gynnwys:
a) gwella canlyniadau cleifion;
b) atal gwasanaethau rhag cael eu cwtogi;
c) mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
iechyd;
d) sicrhau'r manteision iechyd mwyaf posibl
yng nghyswllt meysydd polisi eraill; ac
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal
gwasanaethau’r GIG rhag cael eu canoli, a chadarnhau ei hymrwymiad i gynnal
Ysbytai Cyffredinol Dosbarth sy’n hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau iechyd
lleol.
Mae copi o adroddiad Comisiwn Bevan
"2008 – 2011 NHS Wales: Forging a better future" i'w weld yn
http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/betterfuture/?skip=1&lang=cy
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/09/2017