P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â chau Cyffordd 41 ar yr M4 am y rhesymau a ganlyn: 1. Byddai cau’r gyffordd yn niweidiol i fasnachwyr a busnesau yng nghanol y dref. 2. Byddai cau’r gyffordd yn creu anhrefn ar ffyrdd y dref wrth i’r trigolion geisio cyrraedd y draffordd. 3. Ni chafwyd ymgynghoriad digonol â phobl y dref. 4. Mae angen ymchwilio rhagor i ddulliau eraill o ddatrys y broblem. 5. Ni all yr orsaf drenau newydd fod yn ganolfan drafnidiaeth os nad yw’n hawdd ei chyrraedd. 6. Bydd yn amharu ar y gwaith o ailddatblygu’r dref.

Testun ychwanegol: Unwaith eto, mae anghenion gyrwyr yn bwysicach nag anghenion pobl Port Talbot. Cafodd y dref ei hanrheithio pan adeiladwyd y draffordd yn wreiddiol ac mae disgwyl i ni’n awr ddioddef y llygredd wrth i draffig deithio drwy’r dref ar y ffordd i rywle arall! Y draffordd, nid y gwaith dur, sy’n creu’r llygredd mwyaf yn y dref, ac eto ni fydd y rhai sy’n anadlu’r llygredd yn gallu cyrraedd y draffordd. Bydd y cynlluniau i anfon traffig y dref drwy’r strydoedd yn creu rhagor o lygredd traffig ac yn creu anhrefn. Mae pobl y dref yn deall y problemau n ymwneud âr draffordd ond maent yn galw am ymgynghoriad go iawn ynghylch y posibiliadau eraill. Rhowch gyfle i ni ddiogelun tref.

 

Prif ddeisebydd:  Rose David

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 13 Mai 2014

 

Nifer y llofnodion: 1652

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2014