Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)

Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)

Bil Aelod Cynulliad, a gyflwynwyd gan Bethan Jenkins AC. Roedd Bethan Jenkins AC yn llwyddiannus yn y balot deddfwriaethol ar 17 Gorffennaf 2013, a rhoddodd y Cynulliad ganiatâd iddi fwrw ymlaen â'i Bil ar 16 Hydref 2013. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Prif ddiben y Bil, pan gyflwynwyd ef, oedd rhoi’r ddealltwriaeth a’r gallu ariannol angenrheidiol i bobl Cymru fel y gallent reoli eu sefyllfa ariannol yn effeithiol. Drwy wneud hynny, byddai’r cynigion wedi helpu i gynyddu ffyniant yng Nghymru drwy wella addysg ariannol a gallu ariannol ei dinasyddion. Rhannwyd cynigion y Mesur yn dri chategori eang:

 

  • gwella gallu ariannol ymysg plant a phobl ifanc oedran ysgol (rhwng 8 ac 16 oed) drwy ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol y caiff addysg ariannol ei chynnwys yn y cwricwlwm ysgol;
  • cryfhau rôl awdurdodau lleol yn helpu pobl i osgoi anhawster ariannol, drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fabwysiadu strategaeth cynhwysiant ariannol;
  • rhoi dyletswyddau i awdurdodau lleol o ran rhoi cyngor a threfnu cyngor ar reolaeth ariannol, yn gyffredinol ac yn benodol o ran plant 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal, plant a fu'n derbyn gofal yn flaenorol a myfyrwyr.

 

Cyfnod presennol

 

Methodd y Bil yn niwedd y Pedwerydd Cynulliad gan na chafodd ei basio cyn diwedd y Cynulliad y’i cyflwynwyd ynddo (Rheol Sefydlog 26.77).

 

Geirfa’r Gyfraith

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 

Cyfnod

 

 

Dogfennau

 

Cyflwyno’r Bil – 15 Gorffennaf 2014

 

 

 

Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 73KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1MB)

 

Datganiad y Llwydd: 15 Gorffennaf 2014 (PDF, 125KB)

 

 

 

Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol

 

 

 

Ymgynghoriad

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

17 Medi 2014

25 Medi 2014

1 Hydref 2014

9 Hydref 2014

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 377KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 1MB)

 

 

Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

 

 

Cynhaliwyd y ddadl ar yr Egwyddorion Cyffredinol ar 26 Tachwedd 2014. Tynnwyd y cynnig i gytuno ar yr Egwyddorion Cyffredinol yn ôl gan yr Aelod sy’n gyfrifol. Felly, ni wnaed unrhyw benderfyniad ar yr Egwyddorion Cyffredinol.

 

Methodd y Bil yn niwedd y Pedwerydd Cynulliad gan na chafodd ei basio cyn diwedd y Cynulliad y’i cyflwynwyd ynddo (Rheol Sefydlog 26.77).

 

 

Gwybodaeth gyswllt

 

Mae'r bil wedi cael ei cyfeirio i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

Ffôn: 0300 200 6565

Ê-bost: Cysylltu@Cynulliad.Cymru

 

 

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Bil wedi methu

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/03/2014

Prif Aelod: Bethan Sayed AS

Ymgynghoriadau