P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy’n addas at y diben
P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy’n addas at y diben
Credwn y canlynol: 1. Byddai cynnwys barn darlithwyr yn gynnar yn y
broses o wneud penderfyniadau o fudd mawr i’r gwaith o ddatblygu fframwaith
arolygu sy’n addas at y diben; 2. Oherwydd y pwyslais cynyddol a fydd ar
sgiliau meddal, a’r mewnbwn proffesiynol sydd ei angen gan y rheini sy’n deall
ac sy’n gweithio gyda’r agweddau cymhleth ar gydbwyso addysgeg, galwadau
myfyrwyr, cyflogwyr a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ymddengys y byddai’n
beth da cynnwys y rheini sydd wrth wraidd y broses o ddarparu’r agenda hon; 3.
Dylai gwasanaethau addysg yng Nghymru gael eu gweld fel rhan o deulu ehangach,
ond rydym yn poeni bod y sector Addysg Bellach, ac yn yr achos hwn yn benodol,
darlithwyr yn cael eu heithrio o’r teulu hwn a ddim yn cael y parch
proffesiynol y maent yn ei haeddu.
Gwybodaeth ychwanegol: 1. Fel yr Undeb mwyaf sy’n cynrychioli darlithwyr Addysg Bellach yng
Nghymru, mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi’i eithrio o Grŵp Cynghori Estyn a sefydlwyd i ddatblygu’r fframwaith arolygu newydd ar gyfer
sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru; 2. Ar hyn o bryd, dim ond penaethiaid
ac is-benaethiaid Estyn a geir yn y Grŵp, ar y cyfan; 3. Mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi’i eithrio o gymryd rhan yn y Grŵp Cynghori er ei fod
wedi gwneud sawl cais i Estyn.
Prif ddeisebydd: Ian Whitehead-Ross
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 11 Mawrth 2014
Nifer y llofnodion: 145
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2014