Craffu ar y Gymraeg

Craffu ar y Gymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am y canlynol:

  • hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;
  • gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg drwy osod dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau’n ymwneud â’r Gymraeg;
  • cynnal ymholiadau i faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiynydd; ac
  • ymchwilio i ymyrraeth â rhyddid unigolyn i ddefnyddio'r Gymraeg.

 

Nodir rôl a phwerau statudol y Comisiynydd ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Mae rhagor o wybodaeth am waith y Comisiynydd ar gael ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.

 

Cytunodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ysgrifennu at bob pwyllgor yn gofyn iddynt ystyried y modd maent yn craffu ar y Gymraeg lle mae’n rhan o’u cylch gwaith. Cytunodd hefyd i geisio barn y pwyllgorau ar y ffordd orau o brif ffrydio’r iaith Gymraeg i bob agwedd ar waith craffu’r Cynulliad.

 

Bydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn holi’r Prif Weinidog am rôl Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

 

Gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

O ganlyniad i adroddiad Comisiynydd y Gymraeg, 'Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad i'r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol', a gwaith y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, cytunodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wahodd y Comisiynydd i'w gyfarfod ar 2 Gorffennaf 2014. Prif amcanion y cyfarfod oedd:

  • clywed barn y Comisiynydd ar y ddarpariaeth Gymraeg mewn gofal sylfaenol;
  • cynnal sesiwn craffu cyffredinol gyda'r Comisiynydd.

 

Ar ôl y cyfarfod, ym mis Gorffennaf 2014, ysgrifennodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (PDF, 189KB).

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2014

Dogfennau