P-04-524 Rheolaeth Gynllunio a’r Gymraeg

P-04-524 Rheolaeth Gynllunio a’r Gymraeg

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Owain Arfon Jones, ar ôl casglu 123 o lofnodion.

 

Testun y ddeiseb:

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, tra bydd yn ystyried y Bil Diwygio Cynllunio, i gynnwys darpariaeth i wneud y defnydd o arwyddion dwyieithog yn ofyniad cyfreithiol mewn amodau cynllunio ar gyfer pob adeilad newydd yng Nghymru y bydd y cyhoedd yn cael mynediad iddo, drwy dalu neu beidio.

 

Gwybodaeth ychwanegol :

Dros hanner can mlynedd ar ôl i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddechrau ar ei hymgyrch dros ddwyieithrwydd yng Nghymru, mae’r sector preifat yn parhau i fethu â chydymffurfio o bell ffordd. Mae angen deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod y sector yn cydymffurfio â Pharagraff 13 o Nodyn Cyngor Technegol 20. Ni ddylai ymgyrchoedd unigol, fel yr ymgyrch Premier Inn, fod yn ofynnol oherwydd mae angen polisi cyffredinol sy’n trin y Gymraeg yn gyfartal yn y sector preifat

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cyfnod o amser a oedd wedi mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/01/2014.

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2014